Gilbert Hunter Doble

Clerigwr Anglicanaidd o Gernyw oedd Gilbert Hunter Doble (26 Tachwedd 188015 Ebrill 1945). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei waith ysgolheigaidd ar saint Cernyw, Cymru a Llydaw.

Gilbert Hunter Doble
Ganwyd26 Tachwedd 1880 Edit this on Wikidata
Pennsans Edit this on Wikidata
Bu farw15 Ebrill 1945 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethhanesydd, offeiriad Anglicanaidd Edit this on Wikidata
Eglwys Wendron, lle bu Doble yn ficer.

Ganed ef yn Penzance, Cernyw, ac addysgwyd ef yng Ngholeg Exeter, Rhydychen, a Choleg Diwinyddol Ely. Ordeiniwyd ef yn 1907. Bu'n gurad cynorthwyol mewn nifer o leoedd yng Nghernyw a Lloegr, yn gurad Redruth ac yna yn ficer Wendron yng Nghernyw. Yn 1935, gwnaed ef yn Ganon er anrhydedd yn Eglwys Gadeiriol Truro.

Ysgrifennodd lawer ar seintiau Cernyw, Cymru a LLydaw, gan ganolbwyntio ar ddadansoddi'r bucheddau o'r Canol Oesoedd. Cyhoeddoedd astudiaethau ar lawer o saint, ar wahan yn y lle cyntaf. Ail-gyhoeddwyd ei waith ar nifer o saint Cymreig, Dyfrig, Illtud, Paulinus Aurelianus, Teilo ac Oudoceus, yn gyfrol wedi ei golygu gan D. Simon Evans dan y teitl Lives of the Welsh Saints (1971).

Anhawsterau golygu

Anhawster sy'n codi wrth defnyddio gwaith Doble oedd ei fethiant i credu fod menywod yn medru arwain cymynedau neu teithio yn rheolaidd. Credodd fod y mynaich a ysgrifennodd amdanynt wedi gwneud gangymeriad. Ceisiodd cywiro neu cysoni trwy troi ambell santes yn ddyn ac uno seintiau oedd yn gweithio yn agos at eu gilydd. E. e. Awgrymodd dod dau sant a elwid Non, un yn fenyw a esgorodd ar Ddewi a'r llall yn dyn oedd wedi teithio a sefydlu cymunedau.

Cyfeiriadau golygu