Roedd Giorgio Barbarelli da Castelfranco (c.1477 - Hydref 1510) yn beintiwr Eidalaidd, a aned yn Castelfranco yn yr Eidal.[1]

Giorgione
Ganwyd1470s Edit this on Wikidata
Castelfranco Veneto Edit this on Wikidata
Bu farw1510 Edit this on Wikidata
Fenis Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Fenis Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, artist Edit this on Wikidata
Adnabyddus amLaura, The Three Philosophers, The Tempest, Hunanbortread Edit this on Wikidata
Arddullpeintio hanesyddol, portread, celf tirlun, celfyddyd grefyddol, noethlun, paentiadau crefyddol, peintio genre Edit this on Wikidata
Mudiadyr Uchel Ddadeni, y Dadeni Dysg, ysgol Fenis Edit this on Wikidata
Venus dormida gan Giorgione (tua 1508-1510: Gëmaldegalerie, Dresden)

Aelod o ysgol baentio Fenis oedd Giorgione. Cafodd ei hyfforddi gan Giovanni Bellini. Gweithiodd gyda Titian ar gyfres o ffresgos yn Fenis yn 1508.

Mae'r rhan fwyaf o'i luniau'n lluniau cymharol fychan ar themâu seciwlar ac yn torri tir newydd yn hanes paentio yn yr Eidal. Yn aml maent yn lluniau enigmataidd iawn, llawn awyrgylch dirgel; gwelir hyn yn arbennig yn Il Tempesto ("Y Ddrycin") â'i dirlun breuddwydiol, y Venus dormida ("Gwener yn cysgu"), a gwblheuwyd gan Titian, a'r "Tri Athronydd".

Paentiai nifer o bortreadau sensitif ar gynfasau bach yn ogystal, e.e. Laura.

Gellid ystyried Giorgione fel yr artist rhamantaidd mawr cyntaf.

Cyfeiriadau golygu

  1. Giorgione (1971). Giorgione (yn Saesneg). Phaidon [distributors in the U.S.: Praeger Publishers. t. 10.