Glöyn cynffon gwennol

Papilio machaon
P. m. britannicus yn Norfolk
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Papilionidae
Genws: Papilio
Rhywogaeth: P. machaon
Enw deuenwol
Papilio machaon
Linnaeus, 1758
Cyfystyron
  • Papilio machaon var. marginalis Robbe, 1891
  • Papilio machaon ab. nigrofasciata Rothke, 1895
  • Papilio machaon ab. niger Heyne, [1895]
  • Papilio machaon var. aurantiaca Speyer, 1858
  • Papilio machaon var. asiatica Ménétriés, 1855
  • Papilio hippocrates C. & R. Felder, 1864
  • Papilio machaon var. micado Pagenstecher, 1875
  • Papilio bairdii Edwards, 1866
  • Papilio asterius var. utahensis Strecker, 1878
  • Papilio hollandii Edwards, 1892
  • Papilio aliaska Scudder, 1869
  • Papilio machaon joannisi Verity, [1907]
  • Papilio machaon petersii Clark, 1932
  • Papilio hippocrates var. oregonia Edwards, 1876
  • Papilio ladakensis Moore, 1884
  • Papilio sikkimensis Moore, 1884
  • Papilio machaon var. centralis Staudinger, 1886
  • Papilio brucei Edwards, 1893
  • Papilio brucei Edwards, 1895
  • Papilio machaon dodi McDunnough, 1939
  • Papilio machaon var. montanus Alphéraky, 1897
  • Papilio machaon var. montanus Alphéraky, 1897
  • Papilio machaon alpherakyi Bang-Haas, 1933
  • Papilio machaon minschani Bang-Haas
  • Papilio machaon chinensomandschuriensis Eller, 1939
  • Papilio machaon hieromax Hemming, 1934
  • Papilio machaon mauretanica Verity, 1905
  • Papilio machaon var. mauretanica Blachier, 1908
  • Papilio machaon var. mauretanica Holl, 1910
  • Papilio machaon var. asiatica ab. caerulescens Holl, 1910
  • Papilio machaon var. asiatica ab. djezïrensis Holl, 1910
  • Papilio sphyrus Hübner, [1823]
  • Papilio machaon machaon maxima Verity, 1911
  • Papilio machaon maxima gen.aest. angulata Verity, 1911
  • Papilio machaon f. chrysostoma Chnéour, 1934
  • Papilio machaon f. archias Fruhstorfer, 1907
  • Papilio machaon chishimana Matsumura, 1928
  • Papilio machaon sylvia Esaki, 1930
  • Papilio machaon venchuanus Moonen
  • Papilio machaon schantungensis Eller, 1936

Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw glöyn cynffon gwennol, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gloynnod cynffon gwennol; yr enw Saesneg yw Swallowtail, a'r enw gwyddonol yw Papilio machaon.[1]

P. m. gorganus yn Normandi. Mae diwedd yr adenydd yn ymdebygu i adenydd gwennol

Mae i'w weld yn Ewrop, Asia a Gogledd America ac mae hyd ei adenydd tua 65 - 86mm. Ceir 37 isrywogaeth. P. m. britannicus yw isrywogaeth gynhenid Prydain; mae'n goroesi yn y Norfolk Broads yn unig. Mae P. m. gorganus (glöyn cynffon gwennol Ewrop; Continental Swallowtail) yn ymwelydd prin o dir mawr Ewrop i dde Lloegr a Chymru.

Oedolyn yn Awstria
Siani flewog fygythiol
Fideo o Papilio machaon

Cynefin golygu

Mae'r glöyn byw, pan fo'n oedolyn yn goblyn o gyflym. Gall hofran yn ei unfan pan fo'n sipian neithdar ac mae'n hoff iawn o wahanol berlysiau yn enwedig mewn caeau eithaf agored. Mae'r gwrywod yn ymgasglu ar copaon bryniau er mwyn cystadlu am fenyw.[2] Yn yr iseldir, fe wnant ymweld â gerddi.

Cyffredinol golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r glöyn cynffon gwennol yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Adrian Hoskins. "Swallowtail. Papilio machaon Linnaeus, 1758". Butterflies of Europe. Cyrchwyd September 24, 2010.