Gweithgaredd hamdden a chwaraeon cystadleuaeth rhyngwladol yw gleidio, efo peilotydd yn hedfan awyren heb beiriant. Sylweddolodd Syr George Cayley ym 1853 sut i wneud peiriant sy'n drymach na'r awyr hedfan. Datblygodd y Brodyr Wright ar hynny pan greon nhw yr awyren gyntaf wedi'i phweru gan injan.

Gleidr Ventus 2 yn glanio tra'n gollwng dŵr sydd wedi cael ei defnyddio fel balast.
Gleidiwr crog

Datblygodd Gleidio fel chwaraeon yn y 1920au – yn dechrau gyda hedfan am fwy o amser, ac wedyn i hedfan am fwy o bellder dros y wlad. Trwy wella dealltwriaeth o aerodynameg a'r tywydd, gellir hedfan pellach a chyflymach erbyn hyn. Mae hedfan am bellder hir iawn yn bosib trwy hedfan mewn awyr sy'n codi ac mae hedfan am fwy na 1,000 cilomedr yn bosib. Mae peilotydd yn gallu gweithio i ennill cymwysterau a bathodynnau i ddangos ei sgiliau.

Mae gleidio cystadleuol yn boblogaidd iawn hefyd efo llawer o gystadlaethau lleol a rhanbarthol ar draws y byd, gyda Cystadleuaeth y Byd bob yn ail flwyddyn.


Safleoedd gleidio golygu

 
 
636 VGS
 
Brynbuga
 
Cwm Nedd
 
Dinbych
 
Llandegla
 
Talgarth
 
Mynydd Hir
 
Swydd Amwythig
 
Swydd Henffordd
Safleoedd gleidio yng Nghymru

Ceir sawl lle i hedfan yng Nghymru oherwydd mae llawer o gribau mynydd yn y wlad. Ceir pum cangen o'r Clwb Gleidio Prydeinig yn Talgarth, Cwm Nedd, Brynbuga, Dinbych a Llandegla sy'n croesawu'r cyhoedd i hedfan gyda nhw. Ceir dau Sqwadron Gleidio Cadetiaid Awyr; un yn Sain Tathan (ger Caerdydd) ac un arall ym Mhenryn Gŵyr (ger Abertawe).

Pwy Lle Gleider
634 VGS Sain Tathan Vigilant T1
636 VGS Abertawe Vigilant T1
Clwb Gleidio Cwm Nedd Rhigos ??
Clwb Gleidio De Cymru Brynbuga K13
Grob 103 Twin Astir
K8
Grob G102 Astir
Clwb Gleido Dinbych Parc Lenewi Venture
Clwb Gleido Gogledd Cymru Llandegla ??
Clwb Gleidio Mynydd Du Talgarth K13
K21
K6
SZD-30 Pirat
SZD-51 Junior


Dolenni allanol golygu