Glyder Fawr

mynydd (1000.9m) yng Ngwynedd

Mae'r Glyder Fawr yn fynydd yn Eryri, ac ar y ffin rhwng Gwynedd a Sir Conwy. Mae'n un o nifer o fynyddoedd dros 3,000 o droedfeddi yn y Glyderau, er ei fod un medr yn fyr o fod yn gopa 1,000 medr o uchder. Ceir creigiau mawr ar y copa, yn arbennig y casgliad o greigiau a elwir yn "Castell y Gwynt".

Glyder Fawr
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Eryri Edit this on Wikidata
Rhan o'r canlynolParc Cenedlaethol Eryri Edit this on Wikidata
SirGwynedd, Conwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr1,000.9 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.10147°N 4.029164°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH642579 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd642 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaYr Wyddfa Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri Edit this on Wikidata
Map

Enw golygu

 
Copa'r Glyder Fawr

Yn ôl Syr Ifor Williams, "Gludair" oedd y ffurf gywir ar yr enw. Aeth yn "Glydar" yn nhafodiaith Arfon, yna'n "Glyder". Yr ystyr yw "cruglwyth o gerrig".



Llwybrau golygu

Y ffordd orau o gyrraedd y copa yw dilyn y llwybr o Lyn Ogwen at Lyn Idwal. Wedi mynd heibio Llyn Idwal mae'r llwybr yn dringo'n serth heibio'r Twll Du i gyrraedd tir gwastad ger Llyn y Cŵn. (Sylwer na ddylid ceisio dringo i fyny hafn y Twll Du heb raff.) Gellir troi i'r chwith yma a dilyn llwybr sy'n arwain i gopa'r Glyder Fawr ac yna ymlaen i'r Glyder Fach. Gellir dringo'r mynydd o Pen-y-Pass hefyd, neu gellir dringo Tryfan gyntaf ac yna dilyn y grib i'r Glyder Fach a'r Glyder Fawr, ond mae'r llwybr yma'n anoddach.

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu


Y pedwar copa ar ddeg
Yr Wyddfa a'i chriw:

Yr Wyddfa (1085m)  · Garnedd Ugain (1065m)  · Crib Goch (923m)

Y Glyderau:

Elidir Fawr (924m)  · Y Garn (947m)  · Glyder Fawr (999m)  · Glyder Fach (994m)  · Tryfan (915m)

Y Carneddau:

Pen yr Ole Wen (978m)  · Carnedd Dafydd (1044m)  · Carnedd Llywelyn (1064m)  · Yr Elen (962m)  · Foel Grach (976m)  · Carnedd Gwenllian (Garnedd Uchaf) (926m)  · Foel-fras (942m)