Glyn Houston

actor a aned yn 1925

Actor Cymreig oedd Glyn Houston (23 Hydref 192530 Mehefin 2019)[1], a oedd fwyaf adnabyddus am ei waith teledu. Roedd yn frawd iau i'r actor ffilm Donald Houston.[2]

Glyn Houston
GanwydGlyndwr Desmond Houston Edit this on Wikidata
23 Hydref 1925 Edit this on Wikidata
Cwm Clydach Edit this on Wikidata
Bu farw30 Mehefin 2019 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, digrifwr, milwr, actor teledu Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaThe Blue Lamp Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Glyndwr Desmond Houston yn 10 Thomas Street, Tonypandy, Sir Forgannwg, yr ail o dri plentyn i Elsie May Jones a'r pêl-droediwr Alex Houston o Dundee.[2][3]. Gwasanaethodd yn y fyddin yn ystod Yr Ail Ryfel Byd, ac am gyfnod byr roedd yn gomedïwr yn perfformio i filwyr yn ystod y rhyfel.[4] Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ar ffilm yn The Blue Lamp yn 1950.[5]

Gyrfa golygu

Efallai mai rhan mwyaf nodedig Houston oedd fel yr asiant llenyddol "Duncan Thomas", yn y gomedi sefyllfa o'r 1980au Keep It in the Family. Ymddangosodd mewn nifer o ffilmiau yn cynnwys The Great Game.[6]

Yn y ffilm Turn The Key Softly roedd yn chwarae cariad i gymeriad a chwaraewyd gan Joan Collins a gweithiodd ochr yn ochr ag enwau mawr fel Clark Gable, Alan Ladd a Lana Turner.

Yn yr 1970au chwaraeodd Bunter, gwas Lord Peter Wimsey gyferbyn Ian Carmichael mewn dramau teledu o sawl stori gan Dorothy Sayers. Canmolwyd ei berfformiad yn y New York Times.[7] Yn ei feirniadaeth o ddramodiad storiau Harriet Vane gan y BBC yn yr 1980au, mae'r adolygydd Marvin Kitman yn dweud mewn camgymeriad fod Houston wedi ei gamgastio fel Bunter. Mewn gwirionedd, yr actor Richard Morant oedd yn portreadu'r cymeriad yn y gyfres honno.[8]

Roedd perfformiadau eraill yn cynnwys My Good Woman (1973–1974), A Horseman Riding By (1978), Inspector Morse, It Ain't Half Hot Mum, Minder a Doomwatch, yn cynnwys y cymeriad  "Det Supt Jones" yn Softly, Softly.

Ymddangosodd ddwywaith fel cymeriadau gwahanol yn Doctor Who — fel "Professor Owen Watson" yn The Hand of Fear (1976)[9] ac fel "Colonel Ben Wolsey" yn The Awakening (1984).[10] Yn 1979, chwaraeodd ran y Brawd Cadfael yn addasiad BBC Radio 4 o One Corpse Too Many.

Roedd gan Houston dros ddau gant o gydnabyddiaethau teledu a ffilm,[2] yn dyddio mor gynnar â 1950.[11]

Enillodd Houston wobr arbennig BAFTA Cymru yn Ebrill 2008.[11] Cyhoeddodd hunan-fywgraffiad o'r enw Glyn Houston, A Black and White Actor yn Rhagfyr 2009.[4]

Bywyd personol golygu

Roedd Houston yn briod â'r actores a model Shirley Lawrence a chafodd ddau o blant.[5] Yn Mai 2000 dadorchuddiodd Cofeb Lofaol yn ei ardal frodorol ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda. Arweiniodd y teyrngedau i'r miloedd o lowyr a ddioddefodd neu bu farw dros 150 mlynedd o gloddio ym maes glo De Cymru.[12]

Ffilmyddiaeth detholedig golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Glyn Houston – “cariad cyntaf Joan Collins” – wedi marw yn 93 oed , Golwg360, 4 Gorffennaf 2019.
  2. 2.0 2.1 2.2 "BFI | Film & TV Database - Houston, Glyn". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-21. Cyrchwyd 2015-12-23.
  3.  Welsh Actor Glyn Houston Dies at 93 (3 Gorffennaf 2019). Adalwyd ar 4 Gorffennaf 2019.
  4. 4.0 4.1 WalesOnline - Lifestyle - Actor Glyn Houston opens up in new autobiography
  5. 5.0 5.1 WalesOnline - News - South Wales Valleys - Actor Glyn Houston’s autobiography
  6. WalesOnline - News - South Wales Valleys - Glyn Houston's book date
  7. TV View: Sidekicks - Dimmer Than the Stars, Yet.
  8. THE MARVIN KITMAN SHOW: Lord Wimpy's Dilettante Detectiving[dolen marw]
  9. BBC - Doctor Who Classic Series Episode Guide - The Hand of Fear
  10. BBC - Doctor Who Classic Series Episode Guide - The Awakening
  11. 11.0 11.1 WalesOnline - What's On - Actor Glyn Houston’s one regret
  12. BBC News | Wales | Memorial marks mining tragedies
  13. The Pittsburgh Press: 19 November 1953 - Google News Archive Search

Dolenni allanol golygu