Gofod rhyngalaethol

Y gofod materol sy'n bodoli rhwng galaethau yw gofod rhyngalaethol. Yn rhydd o lwch a mater arall, fel rheol, mae gofod rhyngalaethol yn agos iawn at fod yn faciwm neu wactod perffaith. Mae rhai damcaniaethau yn rhoi dwysedd ar gyfartaledd y Bydysawd yn faint sy'n cyfateb i tuag un atom o hydrogen i bob meter ciwbig[1][2]. Ond mae'n amlwg, fodd bynnag, nad yw dwysedd y Bydysawd yn wastadol ; mae'n amrywio o ddwysedd gymharol uchel yn y galaethau (yn cynnwys strwythurau dwysedd uchel iawn oddi fewn iddynt, fel planedau, sêr, a thyllau duon) i wagleoedd anferth sydd â dwysedd is o lawer na'r cyfartaledd yn y Bydysawd cyfan. Dim ond tua 2.73 Kelvin yw tymheredd gofod rhyngalaethol[3]. Mesurodd menter COBE (COsmic Background Explorer) NASA dymheredd o 2.725 +/- 0.002 Kelvin.

Yn amgylchynnu galaethau ac yn ymestyn rhyngddynt, ceir plasma gordenau[4][5] y tybir fod ganddo strwythur edafaidd cosmig[6] sydd a dwysedd fymryn yn uwch na'r cyfartaledd ar gyfer y Bydysawd cyfan. Gelwir y mater hwn yn 'gyfrwng rhyngalaethol' (intergalactic medium neu 'IGM') ac mae'n cynnwys, yn bennaf, hydrogen ïoneiddiedig, h.y. plasma sy'n cynnwys nifer gyfartal o electronau a protonau. Credir fod yr IGM yn bodoli gyda dwysedd o rhwng 10 a 100 gwaith dwysedd ar gyfartaledd y Bydysawd (10 i 100 atom hydrogen y meter ciwbig). Mae'n cyrraedd dwyseddau o hyd at 1000 gwaith dwysedd ar gyfartaledd y Bydysawd mewn clysterau galaethau dwys.

Mae gofod rhyngalaethol yn cynnwys sawl anomali na ellir eu hesbonio yn gwbl foddhaol eto, yn cynnwys yr anomali disgyrchiant a elwir yr Atynydd Mawr.

Cyfeiriadau golygu

  1. Davidson, Keay & Smoot, George. Wrinkles in Time. Efrog Newydd: Avon, 2008: 158-163
  2. Silk, Joseph. Big Bang. Efrog Newydd: Freeman, 1977: 299.
  3. Gwefan NASA COBE
  4. The origin of intergalactic magnetic fields due to extragalactic jets
  5. "The Universe is 99.999% plasma". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-07-05. Cyrchwyd 2008-08-07.
  6. The Universe in Hot Gas

Dolenni allanol golygu

Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: Atynydd Mawr; gofod rhyngalaethol; cyfrwng rhyngalaethol; strwythur edafaidd cosmig o'r Saesneg "Great Attractor; intergalactic space; intergalactic medium; cosmic filamentary structure". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.