Gogledd Orllewin Clwyd (etholaeth seneddol)

Roedd Gogledd Orllewin Clwyd yn cyn etholaeth seneddol Gymreig a oedd yn arfer dychwelyd un Aelod Seneddol (AS) i Dŷ'r Cyffredin Senedd y Deyrnas Unedig.

Gogledd Orllewin Clwyd
Etholaeth Sir
Creu: 1983
Diddymwyd: 1997
Math: Tŷ'r Cyffredin
Aelodau:Un

Hanes golygu

Cafodd yr etholaeth ei greu ar gyfer etholiad cyffredinol 1983 a chafodd ei diddymu ar gyfer etholiad cyffredinol 1997.

Crëwyd y sedd trwy uno rhannau helaeth o gyn etholaeth Ddinbych a chyn etholaeth Sir y Fflint roedd y ddwy gyn etholaeth yn cael eu dal gan Geidwadwyr. Fe ymgeisiodd Geraint Morgan AS a Syr Anthony Meyer AS, y ddau aelod a oedd yn cynrychioli'r seddi oedd i'w colli yn yr ad-drefnu, i gael eu henwebu ar gyfer y sedd newydd. Cynigiodd Beata Brookes ASE Gogledd Cymru ei henw ar gyfer yr ymgeisyddiaeth hefyd gan greu peth controfersi a sylw yn y wasg.

Mewn cyfarfod tynnu rhestr fer o ymgeiswyr gan fwrdd reoli Cymdeithas Ceidwadol yr etholaeth a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 1983 fe lwyddodd Brookes i ennill yr ymgeisyddiaeth gan i'r bwrdd rheoli penderfynu mae dim ond ei henw hi oedd i'w cyflwyno i gyfarfod dewis gan holl aelodau'r Blaid Geidwadol yn yr etholaeth. Honnodd Syr Anthony bod y cyfarfod yn ffics tra fo Geraint Morgan yn cwyno bod siarad yn y cyfarfod megis pledio achos o flaen rheithgor oedd wedi ei lygru. Plediodd Syr Anthony achos llwyddiannus o flaen Yr Uchel Lys i sicrhau bod ei enw ef yn cael ei gyflwyno i gyfarfod dewis yr aelodaeth cyffredinol yn ogystal ag enw Brookes. Yn y cyfarfod dewis fe lwyddodd Syr Anthony i ennill yr ymgeisyddiaeth o drwch y blewyn.[1]

Cafodd Syr Anthony ei ddad-ddewis fel ymgeisydd Ceidwadol ar gyfer etholiad cyffredinol 1992 ar ôl iddo ymgeisio yn aflwyddiannus i herio'r prif weinidog Margaret Thatcher am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol[2]. Cafodd Syr Anthony ei olynu gan Rod Richards ar ran y Ceidwadwyr, fe gadwodd Richards y sedd hyd ei ddiddymu ym 1997.

Aelodau Seneddol golygu

Blwyddyn Aelod Plaid
1983 Syr Anthony Meyer Ceidwadol
1992 Rod Richards Ceidwadol
1997 diddymu'r etholaeth

Etholiadau golygu

Etholiadau yn y 1990au golygu

Etholiad cyffredinol 1992: Gogledd Orllewin Clwyd[3]
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Rod Richards 24,488 46.2 −2.3
Llafur Chris Ruane 18,438 34.8 +10.0
Democratiaid Rhyddfrydol Robert V. Ingham 7,999 15.1 −7.6
Plaid Cymru Neil H. Taylor 1,888 3.6 −0.4
Deddf Naturiol Ms. Mary S. Swift 158 0.3
Mwyafrif 6,050 11.4 −12.3
Y nifer a bleidleisiodd 52,971 78.6 +3.5
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd −6.1

Etholiadau yn y 1980au golygu

Etholiad cyffredinol 1987: Gogledd Orllewin Clwyd
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Syr Anthony Meyer 24,116 48.5 −2.5
Llafur K.L. Thomas 12,335 24.8 +8.5
Rhyddfrydol Owen Griffiths 11,279 22.7 −6.4
Plaid Cymru Robert Karl Davies 1,966 4.0 +0.4
Mwyafrif 11,781 23.7
Y nifer a bleidleisiodd 49,696 75.2 +2.1
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd −5.5
Etholiad cyffredinol 1983: Gogledd Orllewin Clwyd
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Syr Anthony Meyer 23,283 51.0
Rhyddfrydol J.J. Lewis 13,294 29.1
Llafur C.I. Campbell 7,433 16.3
Plaid Cymru Mrs. M. Rhys 1,669 3.6
Mwyafrif 9,989 21.9
Y nifer a bleidleisiodd 45,679 73.1

Cyfeiriadau golygu

  1. The Telegraph 10 Ion 2005 Obituaries-Sir Anthony Meyer [1] adalwyd 17 Chwefror 2015
  2. The Independent 10 Ionawr 2005 Sir Anthony Meyer Bt [2] Archifwyd 2016-03-07 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 17 Chwefror 2015
  3. UK General Election results April 1992 [3] adalwyd17 Chwefror2015