Gogwyddiad Lladin

Gogwyddiad Lladin yw'r ffurfdroadau ar enwau, rhagenwau, ansoddeiriau a'u geirynnau perthynol yn yr iaith Ladin.

Mae gan enwau Lladin saith cyflwr; goddrychol, gwrthrychol, genidol, derbyniol, abladol, cyfryngol a chyfarchol; a dau rif: unigol a lluosog. Mae pob enw naill ai'n wrywaidd, benywaidd neu ddiryw. Mae enwau yn gogwyddo i bum grŵp.

Esboniad bras o'r cyflyrau golygu

  • Fe ddefnyddir y cyflwr goddrychol i ddangos pwnc datganiad:
    servus ad villam ambulat.
    Mae'r caethwas yn cerdded i'r tŷ.
  • Mae'r cyflwr genidol yn mynegi perchnogaeth, mesuriad neu ffynhonnell:
    servus laborat in villa domini.
    Mae'r caethwas yn gweithio yn nhŷ'r meistr.
  • Mae'r cyflwr derbyniol yn dangos gwrthrych anuniongyrchol y frawddeg. Yn y Gymraeg fe ddefnyddir yr arddodiad i i'w dynodi:
    servi tradidere pecuniam dominis.
    Rhoddodd y caethweision yr arian i'r meistri.
  • Mae'r cyflwr gwrthrychol yn mynegi gwrthrych uniongyrchol berf, neu gyfeiriad symudiad ac fe allai fod yn wrthrych rhagddodiaid:
    dominus servos vituperabat quod non laborabant.
    Gwaeddodd y meistri ar y caethweision gan nad oeddent yn gweithio.
  • Mae'r cyflwr abladol yn cyfleu arwahaniad neu ddigyfeiriad:
    dominus in cubiculo dormiebat.
    Roedd y meistr yn cysgu yn ei ystafell wely.
  • Fe ddefnyddir y cyflwr cyfarchol i gyfarch neu gyfeirio at rywun:
    festina, serve!
    Brysiwch, gaethwas!
  • Mae'r cyflwr lleol yn dynodi lleoliad ar/yn, neu'r amser y mae digwyddiad yn digwydd. Mae'r cyflwr hwn yn gyfyng iawn yn Lladin a dim ond enwau rhai llefydd yn Rhufain hynafol sydd â ffurfiau lleol:
    servus Romae erat.
    Roedd y caethwas yn Rhufain.

Gogwyddiad enwau golygu

Isod gweler terfyniadau rheolaidd y pum grŵp gogwyddiad.

Gogwyddiad cyntaf golygu

Dyma grŵp o enwau benywaidd yn bennaf.[1]

Unigol Lluosog
Goddrychol -a -ae
Genidol -ae -ārum
Derbyniol -ae -īs
Gwrthrychol -am -ās
Cyfarchol -a -ae
Abladol -īs

Ail ogwyddiad golygu

Dyma grŵp o enwau gwrywaidd a diryw.

Gwrywaidd golygu

Unigol Lluosog
Goddrychol -us, -us, -er
Genidol -ōrum
Derbyniol -īs
Gwrthrychol -um -ōs
Cyfarchol -us, -ius
Abladol -īs

Diryw golygu

Unigol Lluosog
Goddrychol -um -a
Genidol -ōrum
Derbyniol -īs
Gwrthrychol -um -a
Cyfarchol -us, -ius -a
Abladol -īs

Trydydd gogwyddiad golygu

Dyma grŵp o enwau gwrywaidd, benywaidd a diryw â nifer o derfyniadau yn y goddrychol unigol.

Gwrywaidd a benywaidd golygu

Unigol Lluosog
Goddrychol nifer -ēs
Genidol -is -um
Derbyniol -ibus
Gwrthrychol -em -ēs
Cyfarchol godd. -ēs
Abladol -e -ibus

Diryw golygu

Unigol Lluosog
Goddrychol nifer -a
Genidol -is -um
Derbyniol -ibus
Gwrthrychol godd. -a
Cyfarchol godd. -a
Abladol -e -ibus

Pedwerydd gogwyddiad golygu

Dyma grŵp o enwau gwrywaidd[2] a diryw yn bennaf.

Gwrywaidd golygu

Unigol Lluosog
Goddrychol -us -ūs
Genidol -ūs -uum
Derbyniol -uī -ibus
Gwrthrychol -um -ūs
Cyfarchol -us -ūs
Abladol -ibus

Diryw golygu

Unigol Lluosog
Goddrychol -ua
Genidol -ūs -uum
Derbyniol -ibus
Gwrthrychol -ua
Cyfarchol -ibus
Abladol -ibus

Pumed gogwyddiad golygu

Yn y pumed gogwyddiad mae'r enwau i gyd yn fenywaidd heblaw am ddau.

Unigol Lluosog
Goddrychol -ēs -ēs
Genidol -eī -ērum
Derbyniol -eī -ēbus
Gwrthrychol -em -ēs
Cyfarchol -ēs
Abladol -ēbus

Gogwyddiad ansoddeiriau golygu

Nodiadau golygu

  1. Mae yna ychydig o enwau gwrywaidd hefyd yn y gogwyddiad cyntaf
  2. Er bod y rhan fwyaf o enwau yn wrywaidd mae grŵp bach o rai benywaidd hefyd.

Gweler hefyd golygu