Gomer Berry, Is-iarll 1af Kemsley

newyddiadurwr, person busnes, gwleidydd (1883-1968)

Roedd James Gomer Berry, yr Is-iarll Kemsley, GBE (7 Mai 1883 - 6 Chwefror 1968) yn Gymro oedd yn berchennog papurau newyddion.[1]

Gomer Berry, Is-iarll 1af Kemsley
Ganwyd7 Mai 1883 Edit this on Wikidata
Bu farw6 Chwefror 1968 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethnewyddiadurwr, person busnes, gwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ'r Arglwyddi, High Sheriff of Buckinghamshire Edit this on Wikidata
TadJohn Mathias Berry Edit this on Wikidata
MamMary Ann Rowe Edit this on Wikidata
PriodEdith Merandon du Plessis, Mary Lilian Holmes Edit this on Wikidata
PlantPamela Gordon, Anthony Berry, Lionel Berry, 2nd Viscount Kemsley, Denis Berry, William Neville Berry, John Douglas Berry, Oswald Berry Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Croes Fawr Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Roedd Berry yn fab i John Mathias a Mary Ann (née Rowe) Berry, o Ferthyr Tudful. Roedd ei dad yn asiant tai ac yn henadur Rhyddfrydol ar Gyngor Sir Forgannwg. Roedd yn frawd iau Henry Berry, Barwn 1af Buckland, diwydiannwr, a William Berry, Is-iarll 1af Camrose, a oedd hefyd yn un o farwniaid y wasg.[2]

Gyrfa golygu

Ymadawodd Berry'r ysgol ym mhedwar ar ddeg oed i weithio ar y papur lleol The Merthyr Tydfil Times. Bu'n gweithio ar gyfer nifer o bapurau newydd de Cymru, cyn symud ymlaen i Lundain, lle lansiodd ei bapur ei hun Advertising World. Ei brif gyfalaf oedd £100 a fenthycwyd iddo gan ei frawd hyn, Henry Seymour Berry, Barwn Buckland, daeth yn bartner busnes iddo ym 1902.[3]

Ym 1915 prynodd y brodyr The Sunday Times, gan adfer y papur trwy fuddsoddiad angenrheidiol. Ym 1919 prynwyd cwmni St Clement's Press cyhoeddwyr y Financial Times.[4]

Ym 1924 sefydlodd y brodyr cwmni Allied Newspapers (a newidiodd ei enw i Bapurau Newydd Kemsley wedyn). Prynodd y cwmni newydd cwmni'r Arglwydd Rothermere Hulton Papers a oedd yn berchen ar Daily Dispatch, the Manchester Evening Chronicle, a the Sunday Chronicle ymhlith ei deitlau. Prynodd Allied Newspapers papurau rhanbarthol yng Nglasgow, Sheffield, Newcastle, Middlesbrough, ac Aberdeen. Prynwyd the Daily Sketch a'r Illustrated Sunday Herald o gwmni'r Daily Mail. Yng Nghymru daeth y brodyr yn berchenogion y Western Mail, South Wales Daily News, Evening Express a'r South Wales Echo, gan uno'r ddau bapur dydd a'r ddau bapur nos.[4]

Ym 1927 daeth cwmni Berry yn berchnogion The Daily Telegraph.[4]

Roedd Berry yn gadeirydd Asiantaeth Newyddion Reuters o 1951 i 1958.

Er iddo gael ei fagu ar aelwyd Ryddfrydol roedd Kemsley yn mynnu bod ei bapurau yn adlewyrchu barn asgell dde. Cyn yr Ail Ryfel Byd roedd yn gefnogol i lywodraeth yr Almaen, gan ymweld â Hitler ym 1939. Wedi cychwyn y rhyfel bu'n hynod gefnogol i Winston Churchill ac ar ôl y rhyfel yn wrthwynebus i holl newidiadau cymdeithasol y llywodraeth Llafur.[1]

Ym 1954 roedd Berry yn rhan o gonsortiwm Kemsley-Winnick, a enillodd gytundebau cychwynnol darlledu rhaglenni’r penwythnos teledu annibynnol ar gyfer Canolbarth Lloegr a Gogledd Lloegr. Cafodd draed oer dros y risg ariannol, a dynnodd yn ôl, gan achosi'r consortiwm i gwympo.

Ym 1959 prynodd yr Arglwydd Thomson Papurau Newydd Kemsley, yn eironig trwy ddefnyddio ei elw o Scottish Television.

Anrhydeddau golygu

Crëwyd Berry yn farwnig ym 1928, a chafodd ei benodi'n Swyddog o Urdd Fwyaf Hybarch Ysbyty Sant Ioan o Jerwsalem ym 1931. Ym 1936, fe'i codwyd i'r bendefigaeth fel y Barwn Kemsley, o Farnham Royal yn Swydd Buckingham a'i ddyrchafu yn Is-iarll Kemsley, o Dropmore yn Swydd Buckingham, ym 1945. Ym 1929 fe'i penodwyd yn Uchel Siryf Swydd Buckingham ac ym 1959, fe'i hurddwyd yn Farchog Croes Fawr Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (GBE) ar gyfer "gwasanaeth gwleidyddol a chyhoeddus".

Teulu golygu

Bu'r Arglwydd Kemsley yn briod ddwywaith. Ei briod gyntaf ym 1907 oedd Mary Lilian Holmes, merch Horace George Holmes, y bu iddynt chwe mab ac un ferch. Bu farw ei wraig gyntaf ar 1 Chwefror 1928 ac ar 30 Ebrill 1931 priododd Marie Edith Merandon du Plessis, merch E. N. Merandon du Plessis. Nid fu plant o'r briodas hon.[5]

Marwolaeth golygu

Bu farw Kemsley ym Monte Carlo ar 6 Chwefror 1968 [6] ac fe'i claddwyd yn fynwent St Anne, Dropmore. Claddwyd Marie Edith, ei ail wraig gydag ef yn dilyn ei marwolaeth ar 12 Medi 1976. Cafodd y teitl ei drosglwyddo i Lionel ei fab hynaf. Cafodd ei fab ieuengaf, y gwleidydd Ceidwadol, Syr Anthony Berry, ei ladd gan yr IRA yn ffrwydrad gwesty Brighton 1984.

Cyfeiriadau golygu