Gorllewin yr Almaen

Gwladwriaeth ffederal yng ngorllewin Ewrop yn ystod y Rhyfel Oer oedd Gorllewin Yr Almaen (Almaeneg: Westdeutschland). Ei enw ffurfiol oedd Gweriniaeth Ffederal yr Almaen (Bundesrepublik Deutschland). Cafodd ei ffurfio ym Mai 1949 a daeth i ben gydag ailuno'r Almaen yn Hydref 1990, pan doddwyd Dwyrain yr Almaen a daeth ei daleithiau yn rhan o Weriniaeth Ffederal yr Almaen, gan ddod â 40 mlynedd o Almaen rhanedig i ben. Ers uno'r ddwy wlad yn 1990, yr enw a arferid amlaf ydy Yr Almaen, er mai Bundesrepublik Deutschland yw'r enw swyddogol.

Gorllewin yr Almaen
ArwyddairEinigkeit und Recht und Freiheit Edit this on Wikidata
Mathcyfnod o hanes, gwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
PrifddinasBonn Edit this on Wikidata
Poblogaeth63,250,000 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 23 Mai 1949 Edit this on Wikidata
AnthemDas Lied der Deutschen Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Almaeneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolHistory of Germany (1945–1990), Hanes yr Almaen Edit this on Wikidata
GwladGorllewin yr Almaen Edit this on Wikidata
Arwynebedd248,577 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaTsiecoslofacia, Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen, Awstria, Ffrainc, Y Swistir Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.7339°N 7.0997°E Edit this on Wikidata
Map
ArianDeutsche Mark Edit this on Wikidata

Ffurfiwyd Gweriniaeth Ffederal yr Almaen yn wreiddiol allan o dair ardal orllewinol neu'r "Allied Zones of occupation" a reolwyd gan Unol Daleithiau America, Y Deyrnas Unedig a Ffrainc. Detholwyd Bonn yn brifddinas yn hytrach na Gorllewin Berlin.

Rheolwyd y bedwaredd ardal gan yr Undeb Sofietaidd a galwyd hi yn Weriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen (GDA, sef y Deutsche Demokratische Republik, DDR) gyda'i phrifddinas yn Nwyrain Berlin.

Eginyn erthygl sydd uchod am yr Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.