Goronwy Roberts

gwleidydd Llafur

Gwleidydd ac Aelod Seneddol Llafur Cymreig oedd Goronwy Owen Roberts, Barwn Goronwy-Roberts (20 Medi 191323 Gorffennaf 1981). Bu'n Aelod Seneddol dros etholaeth Sir Gaernarfon ac yna etholaeth Caernarfon o 1945 hyd 1974.

Goronwy Roberts
Ganwyd20 Medi 1913 Edit this on Wikidata
Bethesda Edit this on Wikidata
Bu farw23 Gorffennaf 1981 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ'r Arglwyddi, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Gweinidog dros Fasnach Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata

Roedd yn frodor o Benrhos, Bangor. Addysgwyd ef ym Mhrifysgol Cymru a Phrifysgol Llundain.

Daeth yn Aelod Seneddol dros Sir Gaernarfon yn 1945, fel olynydd i'r Rhyddfrydwr Goronwy Owen yna o 1950 dros etholaeth Caernarfon. Yn Etholiad Cyffredinol Chwefror 1974, collodd ei sedd i Dafydd Wigley. Yn ystod ei gyfnod yn y Senedd, daliodd nifer o swyddi. Cymerodd ran amlwg yn yr Ymgyrch Senedd i Gymru, ac yn 1957 cyflwynodd ddeiseb yn galw am senedd ddeddfwriaethol etholedig wedi'i harwyddo gan tua 250,000 o bobl i senedd San Steffan.

Gwnaed ef yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi yn 1974 fel "Barwn Goronwy-Roberts", a bu'n is-arweinydd Ty'r Arglwyddi o 1975 hyd 1979.

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Goronwy Owen
Aelod Seneddol dros Sir Gaernarfon
19451950
Olynydd:
dilewyd yr etholaeth
Rhagflaenydd:
David Price-White
Aelod Seneddol dros Gaernarfon
19501974
Olynydd:
Dafydd Wigley