Gorsaf Ofod Ryngwladol

Gorsaf Ofod Ryngwladol (Saesneg: International Space Station, ISS, Rwsieg: Междунаро́дная косми́ческая ста́нция, МКС) yw enw'r unig orsaf ofod sydd yn y gofod heddiw. Lloeren artiffisial ydyw wedi'i llunio ar ffurf nifer o fodiwlau a gellir ei gweld yn y cyfnos gyda'r llygad noeth; dyma'r gwrthrych artiffisial mwyaf sy'n cylchu'r Ddaear. Mae llawer o wledydd wedi cyd-weithio er mwyn adeiladu'r orsaf, gan gynnwys Rwsia gyda'i roced Proton a Soyuz, yr Unol Daleithiau gyda'r wennol ofod, Siapan, Canada, a'r gwledydd sy'n aelodau o'r ESA (Sefydliad Gofod Ewropeaidd (European Space Agency).[1]

Gorsaf Ofod Ryngwladol
Enghraifft o'r canlynolspace laboratory, gorsaf ofod Edit this on Wikidata
Màs419,725 cilogram Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu20 Tachwedd 1998 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysZarya, Unity, Zvezda, Destiny, Quest Joint Airlock, Pirs, Harmony, Columbus, Kibo, Poisk, Tranquility, Cupola, Rassvet, Integrated Truss Structure, Leonardo, Canadarm2, ExPRESS Logistics Carrier, Dextre, Mobile Servicing System, Power Data Grapple Fixture, Strela, External Stowage Platform, Bigelow Expandable Activity Module, Nauka, Prichal, Wentian module Edit this on Wikidata
GweithredwrNASA, Roscosmos State Corporation, Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, Japan Aerospace Exploration Agency, Asiantaeth Ofod Canada Edit this on Wikidata
RhagflaenyddSpace Station Freedom Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America, y Deyrnas Unedig, Ffrainc, Denmarc, Sbaen, yr Eidal, Yr Iseldiroedd, Sweden, Canada, yr Almaen, Y Swistir, Gwlad Belg, Japan, Norwy, Rwsia Edit this on Wikidata
RhanbarthUnol Daleithiau America, Rwsia, Japan, Canada, Ewrop Edit this on Wikidata
Hyd73 metr Edit this on Wikidata
Echreiddiad orbital0.1 ±0.1 Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.nasa.gov/mission_pages/station/main/index.html Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Lansiwyd y modiwl cyntaf yn 1998. Mae'r ISS, fel y caiff ei hadnabod, yn cynnwys elfen fechan o ddisgyrchiant a'i phwrpas yw caniatáu i ofodwyr oddi mewn iddi gynnal arbrofion mewn bioleg, bioleg dynol, ffiseg, seryddiaeth, meteroroleg a meysydd eraill.[2][3]

Profodd y gwaith ymchwil hyd yma fod effaith tymor hir byw mewn man heb ddisgyrchiant yn gwanhau cyrff y gofodwyr: atroffi'r cyhyrau a lleihau'r esgyrn er enghraifft. Bydd canlyniadau'r gwaith ymchwil a'r holl ddata'n cael eu defnyddio i benderfynu a yw byw ar roced heb ddisgyrchiant ar daith tymor hir (e.e. taith 6-mis i'r Blaned Mawrth) yn bosibl. Hyd yma, canfuwyd fod cryn risg i'r gofodwr gyda thorri esgyrn a chyfyngiadau o ran symud y corff yn debygol.[4][5]

Y gofodwr Tracy Caldwell Dyson yn Cupola ISS

Cyfeiriadau golygu

  1. ["Central Research Institute for Machine Building (FGUP TSNIIMASH) Control of manned and unmanned space vehicles from Mission Control Centre Moscow". Asiantaeth Ffedral y Gofod, Rwsia. Adalwyd 5 Mawrth 2015
  2. "International Space Station Overview". ShuttlePressKit.com. 3 Mehefin 1999. Cyrchwyd 17 Chwefror 2009.
  3. "Fields of Research". NASA. 26 Mehefin 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Ionawr 2008. Cyrchwyd 5 Mawrth 2015.
  4. Jay Buckey (23 Chwefror 2006). Space Physiology. Oxford University Press USA. ISBN 978-0-19-513725-5.
  5. List Grossman (24 Gorffennaf 2009). "Ion engine could one day power 39-day trips to Mars". New Scientist. Cyrchwyd 8 Ionawr 2010.
  Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.