Gorsaf reilffordd Llynpenmaen

Gorsaf reilffordd Llynpenmaen (a alwyd yn Penmaenpool gan y cwmnïau rheilffordd) oedd yr orsaf gyntaf ar ôl gadael Gorsaf reilffordd Dolgellau am Gyffordd y Bermo. Fe'i wasanaethodd pentrefan bychan Llynpenmaen. Fe'i gaewyd yr un adeg â gweddill y lein fis Rhagfyr 1964. Roedd yno iard nwyddau fechan, lŵp lle gallai dau drên basio eu gilydd, a bocs signalau (sy'n dal i sefyll ac yn gwasanaethu fel arsyllfa adar). Nodwedd bron yn unigryw ynglŷn â'r orsaf, a safai wrth ben y bont bren dros yr afon (a godwyd gan y cwmni rheilffordd yn y lle cyntaf), oedd y ffaith fod y platfformau un ochr i'r groesfan ffordd a arweiniai at y bont, ac adeiladau megis y swyddfa docynnau, yr ochr arall, wrth ochr tafarn Sior III.

Ychydig i'r gorllewin, yr oedd sied injans lle cedwid dwy injan ar gyfer tynnu trenau rhwng y Bermo a Rhiwabon.

Eginyn erthygl sydd uchod am orsaf reilffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.