Gorsaf reilffordd Wrecsam Cyffredinol

Gorsaf reilffordd yn Wrecsam

Mae gorsaf reilffordd Wrecsam Cyffredinol (Saesneg: Wrexham General) yn gwasanaethu tref Wrecsam yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Mae'n cael ei gweithredu gan Trafnidiaeth Cymru, ond mae gwasanaethau'n cael eu darparu hefyd gan Drenau Virgin sy'n gweithredu gwasanaeth drên unwaith y dydd i Lundain Euston ac yn ôl, sy'n mynd trwy Caer. Hyd at Ionawr 2011, roedd cwmni Wrecsam a Swydd Amwythig hefyd yn gweithredu oddi yma i Lundain Marylebone.

Gorsaf reilffordd Wrecsam Cyffredinol
Mathgorsaf reilffordd Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1846 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadRhos-ddu Edit this on Wikidata
SirRhos-ddu Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr84 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0508°N 3.0014°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ329508 Edit this on Wikidata
Rheilffordd
Nifer y platfformauEdit this on Wikidata
Nifer y teithwyr313,872 (–1998), 338,671 (–1999), 371,996 (–2000), 377,856 (–2001), 379,624 (–2002), 364,267 (–2003), 391,693 (–2005), 401,242 (–2006), 436,468 (–2007), 487,713 (–2008), 534,256 (–2009), 584,176 (–2010), 613,618 (–2011), 622,466 (–2012), 615,306 (–2013), 590,968 (–2014), 551,966 (–2015), 537,962 (–2016), 522,218 (–2017), 492,390 (–2018) Edit this on Wikidata
Côd yr orsafWRX Edit this on Wikidata
Rheolir ganTrenau Arriva Cymru, KeolisAmey Cymru Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Mae trenau i'r Gogledd yn mynd i Gaer ac weithiau ymlaen i Gaergybi. Mae trenau i'r De yn mynd i Gaerdydd neu i Birmingham. Mae trenau Wrecsam (Canolog)Bidston yn defnyddio platfform 4, rhan o'r hen orsaf reilffordd Cyffordd Wrecsam.

Adeiladwyd yr orsaf ym 1846 ac fe'i ailadeiladwyd ym 1912. Agorwyd caffi a phlatfformau newydd yn 2008. Yn 2011 ailadeiladwyd platform 4 a phont droed, ac yn 2012 estynnwyd y caffi.