Gorthyfail y gerddi

Anthriscus cerefolium
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Apiales
Teulu: Apiaceae
Genws: Anthriscus
Rhywogaeth: A. cerefolium
Enw deuenwol
Anthriscus cerefolium
(L.) Hoffm.

Planhigyn blodeuol ydy Gorthyfail y gerddi sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Apiaceae yn y genws Anthriscus. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Anthriscus cerefolium a'r enw Saesneg yw Garden chervil. Mae'n berlysieuyn poblogaidd iawn yn Ffrainc, ac fe'i defnyddir i roi blas ysgafn ar fwyd fel cawl.

Dail 'Gorthyfail y gerddi' mewn salad.

Mae'r dail gyferbyn a'i gilydd ac mae gan y blodyn 5 petal.

Gall dyfu hyd at 40–70 cm (16–28 mod) ac mae'r dail yn gyrliog. Ceir clystyrau o flodau 2.54–5 cm (1.00–1.97 mod) ar draws. Mae'r ffrwyth tua 1 cm o hyd.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: