Llwyth Germanaidd Dwyreiniol oedd y Gothiaid. Ymestynon nhw ar hyd ffiniau gogleddol yr Ymerodraeth Rufeinig yn y canrifoedd cynnar O.C. Cawn ddisgrifiad manwl ohonynt gan yr hanesydd Rhufeinig Jordanes yn ei hanes o'r Gothiaid (De origine actibusque Getarum, tua 550 OC). Nhw oedd y llwyth Germanaidd cyntaf i dderbyn Cristnogaeth drwy genhadaeth Esgob Ulfila (c. 311-383). Cyfieithiwyd y Beibl i'r iaith Gotheg ganddo gan ddefnyddio gwyddor arbennig a greodd drosti. Roedd y ffurf ar Gristnogaeth a dderbyniodd y Gothiaid gan Esgob Ulfila yn cynnwys yr heresi Ariadaidd, a hyn oedd un o'r rhesymau am i'r heresi ledu'n eang ymysg y llwythau Germanaidd eraill.

Mawsoleum Theodoric yn Ravenna yw'r esiampl bwysicaf o bensaerniaeth y Gothiaid.
Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.