Grŵp gweithredol

O fewn i gemeg organig, y grŵp gweithredol yw'r grŵp o atomau o fewn moleciwl sy'n gyfrifol am ymddygiad a nodweddion y moleciwl. Mae'r grŵp gweithredol gan amlaf yn ymddwyn yn debyg beth bynnag yw maint y moleciwl mae'n rhan ohono. Fodd bynnag, gall adweithedd ac ymddygiad y moleciwl newid gyda grwpiau gweithredol cyfagos.

Ychwanegir enwau'r grŵpiau gweithredol at enwau'r rhiant-alcanau er mwyn enwi cyfansoddion organig.

Grŵp gweithredol cyffredin golygu

Mae'r canlynol yn rhestr o grŵpiau gweithredol cyffredin. Yn y fformiwlâu, mae'r symbolau R a R', fel arfer, yn cynrychioli hydrogen neu ochr-gadwyn hydrocarbon, ond weithiau mae'r symbol yn cyfeirio at unrhyw grŵp o atomau.

Hydrocarbonau golygu

Dosbarth cemegol Grŵp Fformiwla Fformiwla adeileddol Rhagddodiad Olddodiad Enghraifft
Alcan Alcyl R(CH2)nH   alcyl- -an  
Ethan
Alcen Alcenyl R2C=CR2   alcenyl- -en  
Ethen
Alcyn Alcynyl RC≡CR'   alcynyl- -yn  
Asetylen
(Ethyn)
Deilliad bensen Ffenyl RC6H5
RPh
  ffenyl- -bensen  
Cumen
(2-ffenylpropan)
Deilliad tolwen Bensyl RCH2C6H5
RBn
  bensyl- 1-(grŵp neu atom ynghlwm)tolwen  
Bensyl bromid
(α-Bromotolwen)

Grŵpiau gyda halogenau golygu

Dosbarth cemegol Grŵp Fformiwla Fformiwla adeileddol Rhagddodiad Olddodiad Enghraifft
halogenoalcan halo RX   halo- alcyl halid  
Cloroethan
(Ethyl clorid)
fflworoalcan fflworo RF   fflworo- alcyl fflworid  
Fflworomethan
(Methyl fflworid)
cloroalcan cloro RCl   cloro- alcyl clorid  
Cloromethan
(Methyl clorid)
bromoalcan bromo RBr   bromo- alcyl bromid  
Bromomethan
(Methyl bromid)
ïodoalcan ïodo RI   ïodo- alcyl ïodid  
Ïodomethan
(Methyl ïodid)

Grŵpiau gyda ocsigen golygu

Dosbarth cemegol Grŵp Fformiwla Fformiwla adeileddol Rhagddodiad Olddodiad Enghraifft
Alcohol Hydrocsyl ROH
 
Hydrocsyl
hydrocsi- -ol  
Methanol
ceton Carbonyl RCOR'   -oyl- (-COR')
neu
ocso- (=O)
-on  
Bwtanon
(Methyl ethyl ceton)
Aldehyd Aldehyd RCHO   fformyl- (-COH)
neu
ocso- (=O)
-al  
Asetaldehyd
(Ethanal)
Asyl halid Haloformyl RCOX   carbonofflworidoyl-
carbonocloridoyl-
carbonobromidoyl-
carbonoïodidoyl-
-oyl halid  
Asetyl clorid
(Ethanoyl clorid)

Grŵpiau gyda nitrogen golygu

Dosbarth cemegol Grŵp Fformiwla Fformiwla adeileddol Rhagddodiad Olddodiad Enghraifft
Amid Carbocsamid RCONR2   carbocsamido-
or
carbamoyl-
-amid  
Asetamid
(Ethanamid)
Amin Amin cynradd RNH2   amino- -amin  
Methylamin
(Methanamin)
Amin eilaidd R2NH   amino- -amin  
Deumethylamin
Amin trydyddol R3N   amino- -amin  
Trimethylamin
ïon amoniwm 4° R4N+   amonio- -amoniwm  
Colin