Bwriad Graddfa Kinsey yw i ddisgrifio hanes rhywiol unigolyn neu benodau o'i weithgarwch rhywiol ar adeg benodol. Defnyddir graddfa o 0 (yn hollol heterorywiol) i 6 (yn hollol gyfunrywiol). Caiff ei chamddefnyddio'n aml i raddio cyfeiriadedd rhywiol, yn enwedig deurywioldeb, yn nhermau unrhywioldeb. Yn Adroddiadau Kinsey, defnyddiwyd gradd ychwanegol ar gyfer anrhywioldeb. Cyhoeddwyd y syniadau yn gyntaf yn Sexual Behavior in the Human Male (1948) gan Alfred Kinsey, Wardell Pomeroy ac eraill, ac roedd hefyd yn thema bwysig yn y gwaith ategol Sexual Behavior in the Human Female (1953).

Cyfeiriadedd rhywiol
rhan o rywoleg
Gwahaniaethau

Anrhywioldeb · Cyfunrywioldeb · Deurywioldeb · Heterorywioldeb · Hollrywioldeb · Paraffilia · Unrhywioldeb

Labeli

Cwestiynu · Hoyw · Lesbiad · Queer

Dulliau

Graddfa Kinsey · Grid Klein

Astudiaeth

Bioleg · Demograffeg · Meddygaeth · Seicoleg

Anifeiliaid

Cyfunrywioldeb
mewn anifeiliaid
 ·

Gweler hefyd

Rhyngrywioldeb · Trawsrywedd · Trawsrywioldeb

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Wrth gyflwyno'r raddfa, ysgrifennodd Kinsey:

"Nid yw gwrywod yn cynrychioli dwy boblogaeth arwahanol, heterorywiol a chyfunrywiol. Nid yw'r byd i'w rannu'n ddefaid a geifr. Un o egwyddorion sylfaenol tacsonomeg yw mai prin y mae natur yn rhannu pethau yn gategorïau arwahanol... Un continwwm yw pob agwedd ar y byd byw.



Er ein bod yn pwysleisio bod dilyniant o raddiadau rhwng bod yn hollol heterorywiol ac yn hollol gyfunrywiol, teimlwn y byddai'n ddymunol datblygu rhyw fath o ddosbarthiad y gellir ei seilio ar y symiau cymharol o brofiad neu ymateb heterorywiol a chyfunrywiol ym mhob achos... Gellir rhoi unigolyn ar safle arbennig ar y raddfa hon, am bob cyfnod yn ei fywyd.... Graddfa 7-pwynt sy'n dod agosaf at ddangos y nifer o raddiadau sy'n bodoli mewn gwirionedd." (Kinsey ac eraill (1948), tt.639, 656)

Mae'r raddfa fel a ganlyn:

Safle Disgrifiad
0 Yn hollol heterorywiol
1 Heterorywiol yn bennaf, dim ond yn gyfunrywiol yn achlysurol
2 Heterorywiol yn bennaf, ond yn gyfunrywiol yn fwy nag achlysurol
3 Heterorywiol a chyfunrywiol yn gydradd
4 Cyfunrywiol yn bennaf, ond yn heterorywiol yn fwy nag achlysurol
5 Cyfunrywiol yn bennaf, dim ond yn heterorywiol yn achlysurol
6 Yn hollol gyfunrywiol
X Anrhywiol


Darganfyddiadau golygu

Adroddiadau Kinsey golygu

  • Dynion: rhoddwyd safle 3 i 11.6% o wrywod gwyn 20-35 oed ar gyfer y cyfnod hwn yn eu bywydau.[1]
  • Menywod: Rhoddwyd safle 3 i 7% o fenywod sengl 20-35 oed a 4% o fenywod 20-35 oed a fu'n briod am y cyfnod hwn yn eu bywydau.[2] Rhoddwyd safle 5 i 2–6% o fenywod 20-35 oed,[3] a rhoddwyd safle 6 i 1–3% o fenywod dibriod 20-35 oed.[4]

Problemau gyda'r raddfa golygu

Mae nifer o broblemau wedi eu nodi gyda Graddfa Kinsey. Un feirniadaeth yw'r cwestiwn a yw pob safle ond am 0 a 6 yn ddeurywiol, neu ydy 1 a 6, er enghraifft, yn cael eu hystyried yn heterorywiol a chyfunrywiol? Beirniadaeth arall yw'r ffaith ei bod yn dibynnu ar brofiad rhywiol yn unig: nid oes gan wyryfon safle ar y raddfa, ac mae unigolion sydd wedi cael dim ond un brofiad rhywiol yn derbyn safle o naill ai 0 neu 6 yn syth. Oherwydd bydd safleoedd nifer o bobl ar Raddfa Kinsey yn newid yn ystod eu bywydau, dywed rhai bod natur gamarweiniol dynodiadau cychwynnol yn tanseilio cywirdeb y raddfa.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. Kinsey, ac eraill 1948. Sexual Behavior in the Human Male, Tabl 147, tud. 651
  2. Kinsey, ac eraill 1953. Sexual Behavior in the Human Female, Tabl 142, tud. 499
  3. Ibid, tud. 488
  4. Ibid, Tabl 142, tud. 499, a tud. 474
  5. (Saesneg) The Kinsey Scale. BBC h2g2. Adalwyd ar 12 Ionawr, 2008.

Gweler hefyd golygu

Dolen allanol golygu