Graffiti giang Americanaidd yn Irac

Graffiti giang Americanaidd yn Irac yw graffiti gan aelodau o giangau stryd o'r Unol Daleithiau sy'n gwasanethu yn lluoedd arfog America yn Irac. Recriwtiwyd yr aelodau giang fel milwyr gan yr awdurdodau Americanaidd heb wybod o flaen llaw, fe ymddengys, eu bod yn perthyn i giangau stryd a chawsant eu hanfon i Irac i ymladd yn y rhyfel yno, a ddechreuodd yn 2003.

Graffiti giang Americanaidd yn Irac

Ymhlith y giangau stryd mwyaf a gynrychiolir yn Irac y mae'r Gangster Disciples, Black Disciples, Latin Kings, Vice Lords, a'r Black P. Stones, a'u gwreiddiau mewn rhai o ardaloedd geto mwyaf difreintiedig a threisgar Chicago.[1][2][3] Ceir adroddiadau hefyd am aelodau o'r Aryan Nations, yr Aryan Brotherhood a'r Ku Klux Klan yn paentio graffiti in Irac.[4].

Mae'r Christian Science Monitor yn adrodd fod graffiti gan ddinesyddion Iracaidd wedi blodeuo yn Irac ers cwymp llywodraeth Saddam Hussein hefyd.[5] Dan régime Saddam cosbid ysgrifenwyr graffiti'n llym gan yr awdurdodau.

Cyfeiriadau golygu