Hyfforddwr Tîm cenedlaethol rygbi'r undeb Seland Newydd a chyn-hyfforddwr Cymru yw Graham Henry (ganed 8 Mehefin 1946).

Graham Henry
Ganwyd8 Mehefin 1946 Edit this on Wikidata
Christchurch Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSeland Newydd Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Otago
  • Prifysgol Massey Edit this on Wikidata
Galwedigaethpêl-droediwr, cricedwr, chwaraewr rygbi'r undeb, hyfforddwr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Gwobr/auKnight Companion of the New Zealand Order of Merit‎ Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auCanterbury cricket team, Otago cricket team Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Christchurch, Seland Newydd, ac astudiodd ym Mhrifysgol Otago cyn mynd yn athro addysg gorfforol ac yn ddiweddarach yn brifathro Ysgol Uwchradd y Bechgyn Kelstons.

Cafodd ei brofiad cyntaf fel hyfforddwr gyda tîm Auckland o 1992 hyd 1997. Enillodd bencampwriaeth y Super 12 gyda Auckland Blues yn 1996 a 1997.

Yn 1998 daeth Henry yn hyfforddwr Cymru; ar y pryd dywedid fod ei goflog yr uchaf o unrhyw hyfforddwr rygbi yn y byd. Gwelwyd gwelliant sylweddol yn y canlyniadau yn ystod ei dymor ef. Apwyntiwyd ef yn hyfforddwr tîm y Llewod ar gyfer y daith i Awstralia yn 2001. Ymddiswyddodd wedi i Gymru golli 54 - 10 i Iwerddon yn 2002, a dychwelodd i Seland Newydd ac Auckland.

Yn 2003, apwyntiwyd ef yn hyfforddwr y Crysau Duon. Curwyd Lloegr, pencampwyr y byd ar y pryd, yn drwm yn ei ddwy gêm gyntaf, ond roedd Seland Newydd yn llai llwyddiannus ym Mhencampwriaeth y Tair Gwlad yn 2004. Gwellodd y canlyniadau y tynoe wedyn, a churwyd y Llewod ymhob un o'r tair gêm brawf yn 2005. Enillodd y Crysau Duon Bencampwriaeth y Tair Gwlad yn 2006.

Disgwylai llawer i Seland Newydd ennill Cwpan Rygbi'r Byd yn 2007, ond curwyd hwy yn annisgwyl gan Ffrainc, 20 - 18. Er i Henry gael ei feirniadu gan rai, ail-apwyntiwyd ef fel hyfforddwr.