Digrifwr, actor a chyflwynydd rhaglenni teledu Gwyddelig yw Graham William Walker (ganed 4 Ebrill 1963), sy'n fwy adnabyddus o dan ei enw llwyfan Graham Norton.

Graham Norton
GanwydGraham William Walker Edit this on Wikidata
4 Ebrill 1963 Edit this on Wikidata
Clondalkin Edit this on Wikidata
Man preswylWapping, Dinas Efrog Newydd, Ahakista, Droichead na Bandan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Ganolog Llefaru a Drama
  • Coleg Prifysgol Cork
  • Bandon Grammar School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyflwynydd teledu, digrifwr, cyflwynydd radio, newyddiadurwr, actor ffilm, colofnydd, bywgraffydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amThe Graham Norton Show, So Graham Norton, V Graham Norton Edit this on Wikidata
llofnod

Daeth yn enwog fel cyflwynydd ar Channel 4 yn y Deyrnas Unedig, a hefyd o ganlyniad i'w rôl fel y Tad Noel Furlong yn y gyfres deledu adnabyddus Father Ted. Er iddo ymddangos mewn tair rhaglen yn unig, roedd ei bortread o Father Noel yn hynod boblogaidd gyda'r gwylwyr. Mae Norton yn agored fel dyn hoyw ac yn unig o enwogion hoyw mwyaf poblogaidd Iwerddon. Mae ef bellach wedi symud o Sianel 4 i'r BBC ac yn cyflwyno'r sioe siarad The Graham Norton Show

Mae'n cyflwyno sioe ar BBC Radio 2 a fe hefyd yw sylwebydd Cystadleuaeth Cân Eurovision gan gymryd y swydd o Terry Wogan yn 2009.

Roedd Norton yn gyd-berchennog So Television, y cwmni sy'n cynhyrchu eu raglenni amrywiol. Yn 2012, gwerthodd Norton y cwmni i ITV am oddeutu £17 miliwn.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Graham Norton sells production company So TV to ITV". BBC News. Cyrchwyd 18 Hydref 2012.