Ffilm a ryddhawyd ym 1978 yw Grand Slam. John Hefin oedd y cyfarwyddwr a chynhyrchwr, ac ysgrifennwyd y sgript ganddo ef a Gwenlyn Parry.

Grand Slam
Cyfarwyddwr John Hefin
Cynhyrchydd John Hefin
Ysgrifennwr John Hefin
Gwenlyn Parry
Sinematograffeg Russ Walker
Golygydd Chris Lawrence
Sain Mansel Davies
Dylunio Alan Taylor
Cwmni cynhyrchu BBC Cymru
Dyddiad rhyddhau 17 Mawrth 1978
Amser rhedeg 60 munud
Gwlad Cymru
Iaith Saesneg

Crynodeb golygu

Mae hi’n 1977 a thîm rygbi Cymru ar drothwy ennill y gamp lawn am y trydydd tro mewn llai na degawd. Teithia criw o gefnogwyr o gymoedd y de i Baris er mwyn gwylio’r tîm yn eu gêm dyngedfennol yn erbyn y Ffrancwyr yn Parc des Princes yn llawn gobeithion am fuddugoliaeth gofiadwy.

Ynghyd â theithio i wylio’r rygbi mae’r prif gymeriadau ar eu taith bersonol eu hunain i wireddu uchelgeisiau a breuddwydion personol. Mae Glyn ar drywydd cyflawni’r ‘grand slam’ carwriaethol trwy sgorio a Ffrances a Caradog Lloyd-Evans ei dad ar daith i ddod o hyd i’r ferch brydferth a fu’n caru â hi ar ddiwedd y Rhyfel. Wedi cyrraedd Paris â’r criw ar drywydd ‘little butterfly’ Mr Lloyd-Evans, gan ei darganfod mewn clwb stripio. Ond nid y ferch ifanc hardd a gofia Caradog yw hi bellach, ond Madame ganol oed y clwb. Wedi ei siomi â Mr Lloyd-Evans ati i foddi ei ofidiau mewn potel o siampên yn ei chwmni.

Llwydda Glyn i swyno Odette, merch Madame, ac mae’r ddau yn dianc i’w llofft wrth i’r Cymry a’r Ffrancwyr ddechrau ymladd yn y clwb, wedi i Mog efelychu’r strip wraig a diosg ei ddillad, er mawr fwynhad i Maldwyn, cyn cael ei arestio mewn dim ond ei fest, ei focsers a’i sanne.

Ar fore’r gêm ac wedi cythrwfl y noson flaenorol, cyrhaedda’r criw Parc des Princes, dan arweinyddiaeth Maldwyn, ond does dim golwg o Glyn, Mr Lloyd-Evans na Mog. Metha Glyn y gêm wedi ei noson fawr â Odette gan ei gwylio ar y teledu yn ei hystafell. Metha Mr Lloyd-Evans y gêm wedi yfed gormod y noson flaenorol, gan roi braw i Madame, Odette a Glyn pan na ellid ei ddeffro. Gwylia Mog yr hanner cyntaf yn y ddalfa gyda’r Gendarmes, cyn ei ryddhau, a rhedeg ar draws Paris er mwyn cyrraedd cyn diwedd yr ail hanner.

 mawr siomedigaeth, collwyd y gêm a’r gamp lawn, ond â’r gêm i’w chwarae gartref ym Mharc yr Arfau y flwyddyn ganlynol ac wedi penwythnos bythgofiadwy, nid oes rhaid digalonni.

Cast a chriw golygu

Prif gast golygu

  • Hugh Griffith (Caradog Lloyd-Evans)
  • Windsor Davies (Mog Jones)
  • Siôn Probert (Maldwyn Novello-Pughe)
  • Dewi Morris (Glyn Lloyd-Evans)
  • Sharon Morgan (Odette)
  • Elizabeth Morgan (Concierge Ffrengig)
  • Marika Rivera (Madame)
  • Dillwyn Owen (Will Posh)
  • Kim Karlisle (Stripwraig)

Cast cefnogol golygu

  • Lowri Buckingham – Stiwardes Awyr
  • Malcolm Williams – Gendarmes
  • Mici Plwm – Gendarmes

Cydnabyddiaethau eraill golygu

  • Cynorthwyydd Cyntaf – Wynne Jones
  • Cynorthwyydd Cynhyrchu – Beth Price
  • Dyn Camera Cynorthwyol – Ken McKay
  • Cymhathydd Sain – Tony Heasman
  • Dylunio Graffeg – Keith Trodden
  • Cartŵns gan Gren (o’r South Wales Echo)
  • Trefnwr yr ymladd – Alan Chuntz
  • Colur – Cissian Rees
  • Gwisgoedd – Coleen O’Brien
  • Prynwr Propiau - Gwenda Griffith

Manylion technegol golygu

Tystysgrif ffilm: Untitled Certificate

Fformat saethu: 16mm – Saethwyd ar gamera Arriflex

Lliw: Lliw

Cymhareb agwedd: 4:3

Lleoliadau saethu: Caerdydd, Paris

Llyfryddiaeth golygu

  • John Hefin (gol.), Grand Slam – Behind the Scenes of the Classic Film (Talybont: 2007)
  • Peter Hughes Jackimiak, ‘“Coll Gwynfa, Adferiad Gwynfa” – Grand Slam, Gwrywdod ac Adennill y Gymru a Gollwyd’ yn G. Ffrancon a J. Thomas (goln), Cyfrwng 3 – Ieuenctid (Caerdydd, 2006), tt. 91–106.
  • ‘Get an Eiffel of this, Mog!’, Wales on Sunday, 26 Medi 1999.
  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Grand Slam ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.