Granville Beynon

Athro Ffiseg yn ymwneud ag astudiaeth gydwladol o'r onosffer

Gwyddonydd ffiseg o Ddyfnant, ger Abertawe oedd Syr William John Granville Beynon (24 Mai 191411 Mawrth 1996). Am ddeuddeg mlynedd, rhwng 1946 a 1958 bu'n uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe.[1]. Aeth i weithio yn Slough yn 1938 yn y Labordy Ffiseg Cenedlaethol, gyda Syr Edward Appleton, gŵr a gafodd gryn effaith arno. Yn 1958 derbyniodd gadair Ffiseg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.

Granville Beynon
Ganwyd24 Mai 1914 Edit this on Wikidata
Dynfant Edit this on Wikidata
Bu farw11 Mawrth 1996 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethffisegydd, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCBE, Chree Medal and Prize, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Marchog Faglor Edit this on Wikidata

Gallai chwarae'r ffidil a snwcer i safon uchel iawn. Yn ôl y gwyddonydd Phil Williams,

Roedd ganddo wreiddiau tyfn, ac roedd wastad yn driw i'w wreiddiau.[2]

Yn ôl papur yr Independent, gwnaeth Aberystwyth yn "Mecca i ymchwil i'r awyrgylch uwch".[3]

Roedd yn flaenllaw iawn ym myd y radio ac yn Llywydd URSI, (sef "The International Union of Radio Science"), ac yn olygydd "The Journal of Atmospheric and Terrestrial Physics". Ef hefyd oedd arweinydd y gymuned ddarlledu yng Nghymru.

Roedd hefyd yn un o sefydlwyr EISCAT (European Incoherent Scatter Scientific Association).

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan yr Independent: Teyrnged i Beynon
  2.  Sir GRANVILLE BEYNON. MIST. Adalwyd ar 30 Awst, 2009.
  3. Obituary: Professor Sir Granville Beynon ("He made Aberystwyth the Mecca of upper-atmosphere research.")

Dolennau allanol golygu