Actor ffilm Americanaidd oedd Eldred Gregory Peck (5 Ebrill 191612 Mehefin 2003) a fu'n un o sêr oes glasurol Hollywood. Fe'i cydnabuwyd am bortreadu cymeriadau gonest a pharchus, gan ddod â phresenoldeb urddasol i'r sgrin fawr gyda'i daldra a'i lais dwfn, mwyn.[1][2]

Gregory Peck
Llun cyhoeddusrwydd o Gregory Peck mewn un o'i rannau enwocaf, Atticus Finch yn To Kill a Mockingbird (1962).
GanwydEldred Gregory Peck Edit this on Wikidata
5 Ebrill 1916 Edit this on Wikidata
La Jolla, San Diego Edit this on Wikidata
Bu farw12 Mehefin 2003 Edit this on Wikidata
o niwmonia'r ysgyfaint Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
Man preswylSan Diego, Los Angeles, La Jolla Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethactor ffilm, actor cymeriad, cynhyrchydd ffilm, actor llwyfan, actor teledu, actor, cynhyrchydd Edit this on Wikidata
Arddully Gorllewin gwyllt, ffilm antur, ffilm am ddirgelwch, Ffilm gyffro seicolegol, ffilm ddrama, ffilm gyffro, film noir Edit this on Wikidata
Taldra189 centimetr Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
MamBernice Mae Ayres Edit this on Wikidata
PriodGreta Kukkonen, Veronique Peck Edit this on Wikidata
PlantCecilia Peck, Stephen Joseph Peck Edit this on Wikidata
Gwobr/auY Medal Celf Cenedlaethol, Gwobr Donostia, Marian Anderson Award, Gwobr yr Academi am Actor Gorau, Golden Globe Award for Best Actor in a Leading Role, Gwobr Henrietta, Gwobr Henrietta, Gwobr Golden Globe am Actora Gorau - Drama Ffilm Nodwedd, Gwobr David di Donatello am yr Actor Estron Gorau, Gwobr Golden Globe Cecil B. DeMille, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobr Cyflawniad Urdd yr Actorion Sgrîn, Gwobr am Gyfraniad Gydol Oes AFI, Anrhydedd y Kennedy Center, Y César Anrhydeddus, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Donostia, Ours d'or d'honneur, Gwobr y Golden Globe i'r Actores wrth Gefn Orau - Cyfres, Cyfres bitw neu Ffilm Deledu, Commandeur des Arts et des Lettres‎, Gwobr Dyneiddiaeth Jean Hersholt Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.gregorypeck.com/ Edit this on Wikidata

Ganed ef yn La Jolla, Califfornia, yn fab i fferyllydd o dras Seisnig a Gwyddelig, a'i wraig o dras Seisnig ac Albanaidd. Mynychodd Academi Filwrol St John yn Los Angeles ac Uwchysgol San Diego cyn iddo astudio am un flwyddyn yng Ngholeg Taleithiol San Diego. Derbyniodd ei radd o Brifysgol Califfornia, Berkeley. Aeth i Efrog Newydd i gychwyn ar ei yrfa actio, ac yno astudiodd yn y Neighborhood Playhouse a gweithiodd yn Radio City Music Hall.Ymddangosodd ar lwyfan Broadway yn gyntaf ym 1942 yn y ddrama The Morning Star. Oherwydd anaf i'r cefn, ni châi ei dderbyn i'r lluoedd arfog yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ymddangosodd Peck ar y sgrin fawr yn gyntaf fel herwfilwr Sofietaidd yn y ffilm ryfel Days of Glory (1944). Cafodd ei enwebu am Wobr yr Academi am ei rannau yn The Keys of the Kingdom (1944) a Gentleman's Agreement (1947). Yn y 1940au a'r 1950au gweithiodd Peck gyda nifer o gyfarwyddwyr ffilm amlyca'r cyfnod, gan gynnwys Alfred Hitchcock, King Vidor, William Wellman, William Wyler, Vincente Minnelli, a Lewis Milestone. Ymddangosodd mewn sawl ffilm a gyfarwyddwyd gan Henry King, gan gynnwys The Gunfighter (1950), The Snows of Kilimanjaro (1952), a The Bravados (1958). Enillodd Wobr yr Academi am bortreadu'r cyfreithiwr Atticus Finch yn To Kill a Mockingbird (1962), addasiad o nofel Harper Lee.

Ymhlith ei rannau diweddarach mae'r tad yn y ffilm arswyd The Omen (1976), y Cadfridog Douglas MacArthur yn y ffilm fywgraffyddol MacArthur (1977), a Josef Mengele yn The Boys from Brazil (1978). Bu farw Gregory Peck yn Los Angeles yn 87 oed.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Gregory Peck. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Tachwedd 2021.
  2. (Saesneg) Ronald Bergan, "Gregory Peck obituary", The Guardian (14 Mehefin 2003). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 26 Tachwedd 2021.
  3. (Saesneg) "Gregory Peck, a Star of Quiet Dignity, Dies at 87", The New York Times (12 Mehefin 2003). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 26 Tachwedd 2021.