Roedd Arthur Grenville Morris (13 Ebrill 1877 - 27 Tachwedd 1959) yn chwaraewr pêl droed rhyngwladol Cymreig a enillodd 21 cap rhyngwladol i Gymru. Ef yw'r sgoriwr gyda'r nifer o goliau a sgoriwyd erioed ar gyfer Nottingham Forest gyda 217 o goliau. Chwaraeodd hefyd ar gyfer tîm Swindon Town.

Grenville Morris
Ganwyd13 Ebrill 1877 Edit this on Wikidata
Llanfair-ym-Muallt Edit this on Wikidata
Bu farw27 Tachwedd 1959 Edit this on Wikidata
West Bridgford Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethpêl-droediwr, rheolwr pêl-droed Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auSwindon Town F.C., C.P.D. Tref Aberystwyth, Nottingham Forest F.C., Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Safleblaenwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata
Grenville Morris
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
Llanfair-ym-Muallt
0000–1897Tref Aberystwyth
1897–1898Swindon Town47(43)
1898–1913Nottingham Forest421(199)
Tîm Cenedlaethol
1896–1912Cymru21(9)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau).

Cefndir golygu

Ganwyd Morris yn Llanfair-ym-muallt yn fab i Philip S Morris, fferyllydd a Jane ei wraig.

Cafodd rhywfaint o addysg yn Ellesmere College, Swydd Amwythig rhwng Ma1 1892 a Rhagfyr 1893.

Ym 1902 priododd Hariet Marian (Minnie) Scrimgeour (1880 - 1950) yn Nottingham,[1] bu iddynt un ferch. Roedd Mrs Morris hefyd yn amlwg yn y byd chwaraeon. Yn chwarae golff a thenis, bu'n capten ar dîm tenis merched swydd Nottingham am gyfnod o bum mlynedd [2]

Gyrfa clwb golygu

Aberystwyth a Swindon Town golygu

Cychwynnodd ei yrfa pêl-droed yn chware i dîm Aberystwyth, yno llwyddo i sgorio dros 100 o goliau mewn dim ond 75 o gemau. Symudodd o Aberystwyth i Swindon Town yn gynnar ym 1897, wedi ei lofnodi fel chwaraewr amatur. Gwnaeth ei ymddangosiad gyntaf mewn gem a enillwyd 4-0 oddi gartref yn Northfleet ar 6 Chwefror, 1897. Aeth ymlaen i chwarae 50 gêm i Swindon gan sgorio 44 o goliau i'r clwb. Cafodd cytundeb proffesiynol gan y clwb ym mis Hydref 1897. Roedd yn un o chwaraewyr gorau ei genhedlaeth ac fe'i gelwid yn dywysog y mewnwyr.[3]

Nottingham Forest golygu

Cafodd Morris ei drosglwyddo i Nottingham Forest ym 1898 [4] am swm o £200, arian mawr ar y pryd, bron cymaint o arian ag oedd Swindon yn casglu wrth y giât mewn tymor lawn.[3] Roedd Forest newydd ennill Cwpan Lloegr ac yn benderfynol o droi'n dîm o bwys yn Lloegr a herio Notts County i ddyfod yn brif dîm y fro. Roedd y tîm newydd symud i faes newydd ar lannau'r Afon Trent ac yn fodlon talu swm "hurt o uchel" i gaffael chwaraewr byddai'n helpu'r clwb i wneud ei farc.

Chwaraeodd 457 gêm dros Forest yn gwisgo'r crys rhif 10 dros gyfnod o 15 mlynedd, gan wasanaethu fel capten y tîm am 5 mlynedd. Sgoriodd 199 o goliau cynghrair i Forest a 217 dros bob cystadleuaeth. Mae ei record fel sgoriwr gorau Forest yn parhau i sefyll hyd heddiw [5]. Mewn saith o'r deg tymor bu'n chwarae efo'r tîm ef oedd y sgoriwr uchaf. Sgoriodd ddwywaith ym muddugoliaeth fwyaf erioed y clwb pan gurwyd tîm Leicester Fosse 12-0 ym 1909 mewn gêm dyngedfennol i osgoi darostyngiad i'r ail adran.[6]

Gyrfa ryngwladol golygu

Enillodd ei gap lawn Gymreig gyntaf yn 18 oed ym 1896 mewn gêm yn erbyn yr Iwerddon yn y Cae Ras, Wrecsam [7]. Enillodd Cymru 6 - 0 gyda Morris yn sgorio'r bedwaredd gôl trwy beniad.[8] Roedd ei ail ymddangosiad yn erbyn Lloegr yn y gêm bêl droed cyntaf i'w chware ar Barc yr Arfau [9] yn drychineb i Gymru gyda'r ymwelwyr yn ennill o 9 gôl i 1.[10] Aeth ymlaen i chwarae 21 gwaith dros ei wlad.

Daeth ei gap Cymreig olaf ar 11 Mawrth 1912 yn erbyn Lloegr. Sgoriodd gyfanswm o naw gôl mewn pêl-droed rhyngwladol.

Ystadegau golygu

Clwb golygu

Clwb Tymor Cynghrair Cwpan Lloegr Cyfanswm
Cyngrhair Ymddangos Gôl Ymddangos Gôl Ymddangos Gôl
Swindon Town[11] 1896-97 Cynghrair Pêl-droed De Lloegr 4 2 0 0 4 2
1897-98 Cynghrair Pêl-droed De Lloegr 18 12 3 1 21 13
1898-99 Cynghrair Pêl-droed De Lloegr 9 9 0 0 9 9
Cyfanswm 31 23 3 1 34 24
Nottingham Forest[12] 1898–99 Adran Gyntaf Y Gynghrair Bêl-droed 17 7 3 0 19 7
1899–00 Adran Gyntaf 29 8 6 3 35 11
1900–01 Adran Gyntaf 31 14 3 1 34 15
1901–02 Adran Gyntaf 27 7 3 2 30 9
1902–03 Adran Gyntaf 33 24 4 2 37 26
1903–04 Adran Gyntaf 24 12 3 2 27 14
1904–05 Adran Gyntaf 26 12 2 1 43 13
1905–06 Adran Gyntaf 32 19 4 3 36 22
1906–07 Ail Adran 36 21 2 1 38 22
1907–08 Adran Gyntaf 23 7 1 0 25 7
1908–09 Adran Gyntaf 34 12 3 0 37 12
1909–10 Adran Gyntaf 30 19 1 1 31 20
1910–11 Adran Gyntaf 26 11 1 1 44 12
1911–12 Ail Adran 19 10 1 0 20 10
1912–13 Ail Adran 34 16 1 1 35 17
Cyfanswm 421 199 38 18 459 217
Cyfanswm gyrfa 452 222 41 19 493 241

Rhyngwladol golygu

 
Tîm Cymru v Lloegr 1896 (Morris yw rhif 4 yn y llun)
Cymru[13]
Blwyddyn Chwaraewyd Goliau
1896 3 1
1897 1 0
1898 1 0
1899 2 0
1903 2 0
1905 2 2
1907 2 1
1908 1 0
1910 3 2
1911 3 3
1912 1 0
Total 21 9

Tu allan i bêl droed golygu

 
Hysbyseb i fusnes cludo glo Morris

Wrth chware fel amatur yn Aberystwyth a Swindon bu Morris yn ennill ei damaid trwy weithio fel peiriannydd trydanol.[14]. Wedi priodi prynodd iard gwerthu a chludo glo yn Nottingham [15].

Yn ogystal â chware pêl-droed roedd Morris yn cael ei ystyried yn chwaraewr tenis penigamp, ac yn un o obeithion mawr Gymru i ragori yn Wimbeldon. Wedi troi yn chwaraewr proffesiynol trwy dderbyn tâl am chware pêl-droed roedd yn rhaid iddo roi'r gorau i denis a oedd yn cael ei hystyried yn gamp amatur ar y pryd. Ond parhaodd i fod yn hyfforddwr tenis hyd at doriad yr Ail Ryfel Byd [16]

Cyfeiriadau golygu

  1. "LOCAL WEDDING - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1902-01-30. Cyrchwyd 2018-11-11.
  2. Nottingham Evening Post 17 Mai 1950 Late Mrs Morris of West Bridgeford
  3. 3.0 3.1 Swindon Advertiser 7th Chwefror 2012 Grenville was footballing royalty adalwyd 11 Tachwedd 2018
  4. "FOOTBALL - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1898-12-03. Cyrchwyd 2018-11-11.
  5. Me Owd Duck remembers our top scorer - Forest History adalwyd 11 Tachwedd 2018
  6. Nottingham Post Nottingham Forest's 50 all-time best players adalwyd 11 Tachwedd 2018
  7. "Football - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1896-02-20. Cyrchwyd 2018-11-11.
  8. "FOOTBALL - The Aberystwith Observer". David Jenkins. 1896-03-05. Cyrchwyd 2018-11-11.
  9. "InternationalFootball - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1896-03-16. Cyrchwyd 2018-11-11.
  10. Archif pêl-droed Cymru Ystadegau Cymru v Lloeggr 1896 adalwyd 11 Tachwedd 2018
  11. Swindon Town FC Grenville MORRIS adalwyd 11 Tachwedd 2018
  12. English National Football Archive (angen tanysgrifiad)
  13. National Footbal Teams - Morris, Grenville adalwyd 11 Tachwedd 2018
  14. Yr Archif Genedlaethol; Kew Llundain. Cyfrifiad 1901 ar gyfer 9 Strafford Terrace, Nottingham. Cyfeirnod RG13/3186 Ffolio 58, Tudalen 22
  15. Nottingham Journal 21 Ionawr 1905 tud. 4
  16. Yr Archif Genedlaethol; Kew, Llundain. Cofrestr poblogaeth 1939; Cyfeirnod: RG 101/6245G