Griffith Rhys Jones

gof ac arweinydd cerddorol

Arweinydd cerddorol Cymreig oedd Griffith Rhys Jones, neu Caradog (21 Rhagfyr 18344 Rhagfyr 1897). Roedd yn adnabyddus fel arweinydd y "Côr Mawr" o tua 460 llais (Undeb Corawl De Cymru; y South Wales Choral Union), a enillodd y wobr gyntaf ddwywaith yng nghystadleuathau corawl y Palas Crisial (Crystal Palace) yn Llundain yn y 1870au.

Griffith Rhys Jones
Cerflun Caradog yn Aberdâr.
Ganwyd21 Rhagfyr 1834 Edit this on Wikidata
Trecynon Edit this on Wikidata
Bu farw4 Rhagfyr 1897 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaetharweinydd Edit this on Wikidata
Am y digrifwr cyfoes o'r un enw gweler Griff Rhys Jones.

Ganed Griffith Rhys Jones yn Nhrecynon, ger Aberdâr, yng Nghwm Cynon, Morgannwg. Gweithiai fel gof yng Ngwaith Haearn Aberdâr ym mhentref Llwydcoed.

Fe'i claddwyd ym Mynwent Aberdâr, ger ei bentref genedigol.

Yn 1920 codwyd cerflun er anrhydedd iddo a gynlluniwyd gan Syr William Goscombe John yn Sgwar Fictoria, Aberdâr.

Dolenni allanol golygu


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.