Ogof naturiol neu wneuthuredig a ddefnyddiwyd gan bobl yn yr oes fodern fel yn yr henfyd, yn hanesyddol a chynhanesyddol, yw groto neu ogofdy. Ogofau bychain sy'n agos at ddŵr ac sydd fel arfer yn gorlifo neu'n dueddol o orlifo ar lanw uchel yw grotos naturiol. Weithiau, mae grotos gwneuthuredig yn cael eu defnyddio fel nodweddion mewn gerddi. Mae'r Grotta Azzurra yn Capri a'r groto yn fila Tiberius ym Mae Napoli yn enghreifftiau o grotos glan-môr naturiol sy'n boblogaidd.

Groto Cregyn, Pontypwl
Groto, Ontario, Canada

Boed mewn dwr llanw neu'n uchel yn y bryniau, mae grotos fel arfer wedi'i gwneud o galchfaen, ble mae asidedd y dŵr llonydd wedi toddi'r carbonadau yn y garreg wrth iddo basio trwy holltau bychain. Daw'r gair "groto" o'r Eidaleg grotta, Lladin Llafar grupta, a Lladin crypta (sef claddgell).[1] Mae hefyd yn perthyn yn hanesyddol, trwy ddamwain, i'r gair "grotésg". Ar ddiwedd y 15g, datgladdodd bobl Rhufain, yn ddamweiniol, Domus Aurea yr Ymerawder Nero ar Fryn Palatin, cyfres o ystafelloedd, wedi'u haddurno a dyluniadau o goronblethau, fframwaith bensaernïol main, dail, ac anifeiliaid. Roedd yr ystafelloedd wedi suddo o dan y ddaear dros amser. Roedd y Rhufeiniaid a ddarganfyddodd yr heneb hanesyddol yn meddwl ei fod yn rhyfedd, yn rhannol am y credir iddo gael ei ddatguddio gan ffynhonnell "isfydol". Arweiniodd hynny at ei alw'n grottesca, ac o'r enw hwnnw y tarddodd y gair Ffrangeg grotesque.

Cyfeiriadau golygu

  1. OED, s.v. "grotto".