Gruffudd Eifion Owen

Bardd ac awdur o Gymro

Bardd ac awdur Cymraeg yw Gruffudd Eifion Owen (ganwyd 1986). Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018 a'r Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Bae Caerdydd yn 2009.[1] Ef yw Bardd Plant Cymru rhwng 2019 a 2021.[2]

Gruffudd Eifion Owen
Ganwyd1986 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, bardd Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Fe'i magwyd ym Mhwllheli gan fynychu Ysgol Glan y Môr, gan astudio Cymraeg, Hanes a Drama i Lefel A. Yn ei arddegau mynychodd wersi cynganeddu gyda Ifan Prys a’r Prifardd Meirion MacIntyre Huws. Aeth i astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac ar ôl graddio aeth ymlaen i ysgrifennu traethawd MPhil ar ei arwr mawr, Wil Sam.[3]

Bywgraffiad golygu

Mae Gruff yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel awdur a golygydd ar ei liwt fy hun. Bu hefyd yn gweithio fel golygydd stori ar y gyfres Pobol y Cwm. Yn 2015, cyhoeddodd cyfrol o gerddi caeth a rhydd, Hel Llus yn y Glaw, a gyrhaeddodd restr fer Llyfr y Flwyddyn 2016 (Categori Barddoniaeth). Yn 2018/2019 roedd yn rhan o gynllun Grŵp Dramodwyr Newydd y Theatr Genedlaethol ac ysgrifennodd ddrama 'Parti Priodas'.[4]

Mae'n aelod o'r criw sy'n trefnu nosweithiau barddol Bragdy’r Beirdd yn y brif-ddinas. Mae'n aelod o dîm ymryson Llŷn ac Eifionydd ac o dîm Talwrn 'Y Ffoaduriaid'. Enillodd stôl Stomp Fawr Caerdydd yn 2017 a stôl Stomp Fwy Caerdydd yn 2018.[5]

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gruffudd Eifion Owen yn ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Eisteddfod Genedlaethol (10 Awst 2018).
  2. Gruffudd Owen o Bwllheli yw Bardd Plant Cymru tan 2021 , Golwg360, 28 Mai 2019.
  3.  Gruffudd Owen. Prifysgol Aberystwyth. Adalwyd ar 12 Awst 2018.
  4.  Dewch i adnabod Gruff a Lowri. Theatr Genedlaethol Cymru (12 Mehefin 2019).
  5.  Dangos a Dweud Llenyddiaeth yn yr Eisteddfod. Prifysgol Caerdydd. Adalwyd ar 12 Awst 2018.

Dolenni allanol golygu