Gruffudd ap Gwenwynwyn

arglwydd Powys Uchaf

Tywysog Powys Wenwynwyn oedd Gruffydd ap Gwenwynwyn (bu farw tua 1286).

Gruffudd ap Gwenwynwyn
Ganwyd13 g Edit this on Wikidata
Bu farw1286 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
SwyddPowys Wenwynwyn Edit this on Wikidata
TadGwenwynwyn ab Owain Edit this on Wikidata
MamMargred ferch Rhys ap Gruffudd ap Rhys Edit this on Wikidata
PriodHawys Lestrange Edit this on Wikidata
PlantOwain ap Gruffudd ap Gwenwynwyn, Margred 'de La Pole' o Gymru, Dafydd ap Gruffudd ap Gwenwynwyn ab Owain, Llywelyn ap Gruffudd ap Gwenwynwyn, Gwilym ap Gruffudd ap Gwenwynwyn Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Roedd Gruffudd yn fab i Gwenwynwyn ab Owain a Margaret Corbet. Pan oedd yn blentyn, gyrrwyd ei dad o'i dywysogaeth gan Llywelyn Fawr, a bu farw yn Lloegr yn 1216. Treuliodd Gruffudd ei ieuenctid yn Lloegr. Wedi marwolaeth Llywelyn, bu raid i Dafydd ap Llywelyn ddod i gytundeb a Harri III, brenin Lloegr yn 1241. Dan delerau'r cytundeb yma, derbyniodd Gruffudd y rhan fwyaf o'r tiroedd fu'n eiddo ei dad, gan wneud gwrogaeth i Harri amdanynt. Tua'r adeg yma, priododd Hawise, merch John Lestrange o Knockin.

Pan ddechreuodd Llywelyn ap Gruffudd ymestyn ei awdurdod yng Nghymru wedi 1255, parhaodd Gruffudd yn gefnogol i goron Lloegr, ac yn 1257 gyrrwyd ef o'i deyrnas eto. Yn 1263 cytunodd i drosglwyddo ei wrogaeth i Lywelyn, dan y bygythiad y byddai'n colli ei diroedd yn barhaol os na wnâi, a chadarnhawyd hyn yng Nghytundeb Trefaldwyn yn 1267.

Bu raid iddo ffoi i Loegr eto wedi cynllwyn i lofruddio Llywelyn yn 1274. Wedi rhyfel 1277, pan orfodwyd LLywelyn i ildio ei diroedd tu allan i Wynedd dan delerau Cytundeb Aberconwy, cafodd Gruffudd ei diroedd yn ôl eto. Cefnododd Gruffudd Edward I, brenin Lloegr yn rhyfel 1282, er ei fod yn hen ŵr erbyn hyn.

Ar ddiwedd y rhyfel, gwnaed i ffwrdd a thywysogaeth Powys-Wenwynwyn, a daeth y teulu yn un o arglwyddi'r gororau, gan fabwysiadu'r cyfenw de la Pole, ar ôl eu prif ganolfan Poole (Y Trallwng, "Welshpool" yn Saesneg heddiw). O 1283 ymlaen, ymddengys mai ei fab, Owain ap Gruffudd ap Gwenwynwyn neu Owen de la Pole, oedd yn rhedeg ei arglwyddiaeth. Bu farw Gruffudd rywbryd rhwng Chwefror 1286 a diwedd 1287.

Llyfryddiaeth golygu