Gruffudd ap Gwrgenau

bardd

Roedd Gruffudd ap Gwrgenau (fl. tua 1175 - 1210) yn un o Feirdd y Tywysogion, a gysylltir â Gwynedd.[1]

Gruffudd ap Gwrgenau
Ganwyd12 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd12 g Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaGruffudd ap Cynan ab Owain Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ni wyddys llawer o gwbl am fywyd y bardd. Ceir yr unig gyfeiriad cyfoes at ŵr o'r cyfnod yn ach teulu o Frycheiniog, lle nodir fod un o'i hynafiaid, Gruffudd ap Gwrgenau, wedi ei eni tua 1170, ond gan fod y bardd yn cael ei gysylltu â Gwynedd mae'n annhebygol mai'r un un ydoedd, er bod yr enw yn un pur anghyffredin.[1]

Cerddi golygu

Dim ond dwy gerdd gan Gruffudd ap Gwrgenau sydd wedi goroesi. Mae un ohonynt yn awdl farwnad i Gruffudd ap Cynan ab Owain, arglwydd cantrefi Meirionnydd, Ardudwy a Llŷn (gyda'i frawd Maredudd). Bu farw Gruffudd ap Cynan yn Abaty Aberconwy yn y flwyddyn 1200, yn ôl cofnod ym Mrut y Tywysogion. Mae'n wahanol i farwnadau arferol beirdd y cyfnod am ei fod yn pwysleisio breuder oes dyn ac yn erfyn i Dduw am faddeuant cyn symud i glodfori ei wrhydri a'i haelioni ar nodyn mwy confensiynol.[1]

Mae'r ail gerdd yn gyfres fer o englynion yn cofnodi marwolaeth pedwar neu bump o gyfeillion y bardd - yn eu plith y bardd-ryfelwr Gwilym Rhyfel - sydd ar gywair lleddf a dwys. Mae'r gerdd yn perthyn i genre o gerddi i aelodau gosgordd a gyslltir a chanu'r bardd teulu. Unwaith eto ceir pwyslais ar freuder bywyd. Mae oes dyn fel oes drych (yr un mor fregus a diflanedig):

Marw Merwydd hirlwydd, a'm hirwlych—dagrau,
Digrawn ynt a mynych;
Nid henaint gŵr a'i gwrthrych,
Nid hŷn oes dyn nog oes drych.[1]

Llyfryddiaeth golygu

  • Morfudd E. Owen (gol.), "Gwaith Gruffudd ap Gwrgenau", yn Gwaith Llywelyn Fardd I ac eraill o feirdd y ddeuddegfed ganrif, gol. Kathleen A. Bramley et al., Cyfres Beirdd y Tywysogion (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1994)

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Morfudd E. Owen (gol.), "Gwaith Gruffudd ap Gwrgenau"



Beirdd y Tywysogion  
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgon | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgon Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Phylip Brydydd | Seisyll Bryffwrch