Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd

bardd

Bardd Cymraeg o Ynys Môn oedd Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd (fl. 13521382). Ceir y rhan fwyaf o'i waith yn Llyfr Coch Hergest. Mae'n perthyn i ddosbarth o Feirdd yr Uchelwyr y gellir eu hystyried fel yr olaf o'r Gogynfeirdd oherwydd arddull hynafol eu canu, sy'n barhad o draddodiad Beirdd y Tywysogion.

Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd
Ganwyd14 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1352 Edit this on Wikidata

Cerddi golygu

Roedd yn fardd cynhyrchiol a cheir nifer o'i gerddi ar glawr. Cadwyd sawl math o farddoniaeth ganddo. Mae ei ganu mawl i uchelwyr yn cynnwys awdlau i Syr Hywel y Fwyall a nifer o aelodau o deulu Tuduriaid Penmynydd, Tudur Fychan (bu farw 1367), Hywel ap Goronwy a Goronwy Fychan. Credir mai ef oedd awdur awdl ddarogan sy'n galw ar Owain Lawgoch i ddychwelyd i Gymru i hawlio ei etifeddiaeth fel Tywysog Cymru a arwain y Cymry i fuddugoliaeth yn erbyn y Saeson. Ceir fefyd lawer o ganeuon serch a chaneuon crefyddol. Roedd yn ddisgynnydd i'r bardd Dafydd Benfras (cyn 1195? - tua 1258).

Llyfryddiaeth golygu

Golygwyd gwaith Gruffudd ap Maredudd mewn tair cyfrol:

  • Gwaith Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd, cyf. 1 (Canu i deulu Penmynydd) a 2 (Canu crefyddol), gol. Barry J. Lewis (Aberystwyth, 2003, 2005)
  • Gwaith Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd, cyf. 3 (Canu Amrywiol), gol. Ann Parry Owen (Aberystwyth, 2007)