Gruffydd Robert

offeiriad Catholig, gramadegydd, a bardd

Llenor, offeiriad a gramadegydd Cymraeg oedd Gruffydd Robert (c. 1527-98). Mae'n fwyaf enwog am lunio gramadeg modern cyntaf y Gymraeg (a'r cyntaf i'w gyhoeddi trwy gyfrwng yr iaith ei hun), sef Dosparth Byrr ar y rhann gyntaf i ramadeg cymraeg.

Gruffydd Robert
Ganwyd1527 Edit this on Wikidata
Sir Gaernarfon Edit this on Wikidata
Bu farw1598 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethoffeiriad Catholig, bardd Edit this on Wikidata

Ei fywyd golygu

Hanai Gruffydd Robert o sir Gaernarfon yng ngogledd Cymru, yn fab i ddau a enwir yn y ffynonellau fel Robert a Chatrin ferch Gruffudd. Yn ôl ei dystiolaeth ef ei hun, fe'i ganed tua 1527. Dyfarnwyd iddo radd M.A. o goleg Eglwys Crist, Rhydychen oddeutu 1555, ac fe'i penodwyd yn archddiacon Môn yn 1558. Yn fuan wedyn, bu farw Mari I, brenhines Lloegr. Ar ôl i Elisabeth I ddod i'r orsedd, fe ailgyflwynwyd Protestaniaeth yng Nghymru a Lloegr trwy'r ail Ddeddf Goruchafiaeth (1558 [1559]); fodd bynnag, parhaodd Catholigiaeth yn gryf mewn mannau yng Nghymru, ac yr oedd Gruffydd Robert yntau ymysg y rhai a arhosai'n ffyddlon i'r Hen Ffydd.[1]

Dewisodd Robert fynd yn alltud wedi marw'r Frenhines Mari; aeth i Fflandrys gyda'i ewyrth, Morys Clynnog, gan dreulio cyfnod yn cynorthwyo'r ffoaduriaid Catholig a aeth yno i chwilio am loches. Tra buont yn Fflandrys, y mae'n ymddangos i'r ddau ohonynt ddilyn cyrsiau ym mhrifysgol Leuven (Louvain), ac yn nes ymlaen yn ninas Bologna yn yr Eidal. Erbyn 1563, fe'u ceir yn yr Ysbyty Seisnig yn Rhufain: buasai Thomas Goldwell, esgob Llanelwy, yn warden ar yr Ysbyty er 1561, ac nid annichon ei fod wedi estyn gwahoddiad iddynt ymuno ag ef. Yno, ym mis Rhagfyr 1563, yr ordeiniwyd Robert yn offeiriad; erbyn Ionawr 1564 yr oedd ef a Morys Clynnog wedi eu penodi'n gaplaniaid i'r Ysbyty. Fodd bynnag, yn 1565, gadawodd Robert yr Ysbyty a mynd i Filan yn un o gwmni o Gymry a Saeson eraill a oedd yn byw yn Rhufain. Erbyn 1567, yr oedd yng ngwasanaeth y Cardinal Carlo Borromeo, Archesgob Milan. Daethpwyd i gyfeirio at Robert fel doethur mewn ffynonellau ym Milan, yn ogystal â chan awduron megis Anthony Munday a Morris Kyffin: geill fod doethuriaeth wedi ei dyfarnu iddo yn Leuven, neu efallai ar ôl iddo ymgartrefu yn yr Eidal. Roedd dyletswyddau esgobaethol Robert yn eang; bu hefyd yn un o gyffeswyr rheolaidd Borromeo ac yn ganon diwinydd yn yr Eglwys Gadeiriol.

Yn ystod y pla enbyd a drawodd ddinas Milan yn 1576-7, hynododd Gruffydd Robert ei hun drwy fod yn un o'r rhai a gydlynodd ymateb yr archesgobaeth i anghenion y trigolion, ac fe gofnodir iddo fynd gyda Borromeo ar hyd a lled y ddinas yn dosbarthu bwyd a meddyginiaethau. Arhosodd Robert ym Milan am weddill ei oes fel prelad yng ngwasanaeth Borromeo a'i olynwyr, yr archesgobion Gaspare Visconti a Federico Borromeo. Yn 1582, am wahanol resymau, gofynnodd Robert am ganiatâd i ymddiswyddo o'i ddyletswyddau pregethwrol cyhoeddus. Er hynny, fe barhaodd yn ganon diwinydd yn y gadeirlan ac yn sensor archesgobaethol, ac fe ddyfarnwyd pensiwn iddo yn 1594. Yn ôl cofnod yn Libro dei Morti y ddinas ar gyfer 1598, dioddefodd o'r gwaedlif am fisoedd lawer; gofalwyd amdano yn ei waeledd gan Ludovico Settala, un o feddygon enwocaf Milan. Bu farw 15 Mai o'r flwyddyn honno.

Ei ramadeg golygu

Cyhoeddwyd rhan gyntaf y gramadeg, sef Dosparth byrr ar y rhann gyntaf i ramadeg cymraeg, ym Milan yn 1567; y dyddiad a roddir ar wyneb-ddalen y gyfrol yw Dydd Gŵyl Ddewi. Ni cheir dyddiad ar gyfer y rhannau eraill, ond y tebyg yw fod yr ail, sy'n trafod yr wythran ymadrodd (cyfiachyddiaeth yw gair Gruffydd Robert) wedi dod o'r wasg rywbryd ar ôl i Carlo Borromeo farw ym mis Tachwedd 1584; diau i Robert gael mwy o hamdden wedyn i weithio ar ei ramadeg.[1] Cyhoeddwyd y drydedd ran (tonyddiaeth) a'r bedwaredd, sy'n trafod y cynganeddion a mesurau cerdd dafod, cyn 1598. Ymgom mewn gwinllan rhwng dau y cyfeirir atynt fel 'Gr.' (sef Gruffydd Robert ei hun) a 'Mo.' (Morys Clynnog) yw strwythur y gramadeg. Tueddir i ystyried dau waith arall o'i eiddo, sef casgliad o gerddi Cymraeg a chyfieithiad o De Senectute gan Cicero (cyfrol na ddaeth o'r wasg yn gyflawn), yn fath o atodiadau i'r gramadeg;[1] er hynny, y mae'n llawn mor bosibl mai gweithiau annibynnol ydynt. Robert a olygodd yr Athravaeth Gristnogavl, sef cyfieithiad Morys Clynnog o destun cateceiddiol gan yr Iesuwr, Diego de Ledesma, a'i lywio drwy'r wasg. Yr Athravaeth yw'r gyfrol Gymraeg gyntaf a gyfieithwyd yn uniongyrchol o gynsail Eidaleg.

Llyfrau eraill golygu

Llyfryddiaeth golygu

Ceir argraffiad safonol o Ramadeg Gruffydd Robert a rhagymadrodd helaeth yn:

  • G. J. Williams (gol.), Gramadeg Cymraeg gan Gruffydd Robert yn ôl yr argraffiad y dechreuwyd ei gyhoeddi ym Milan yn 1567 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1939)
  • Gw. hefyd M. Paul Bryant-Quinn, 'Dyddiadau a Chefndir Gruffydd Robert, Milan', The Welsh History Review / Cylchgrawn Hanes Cymru 29 (4), Rhagfyr 2019, 532-61

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 G. J. Williams (gol.) Gramadeg Cymraeg Gruffydd Robert. Rhagymadrodd.

Gweler hefyd golygu