Dinas fwyaf a phrif porthladd Ecwador yw Guayaquil, yn llawn Santiago de Guayaquil, a leolir ar lannau gorllewinol Afon Guayas, 72 km o aber yr afon, yn Nhalaith Guayas. Llifa'r afon i Gwlff Guayaquil yn y Cefnfor Tawel. Saif y ddinas rhyw 2° i dde'r cyhydedd. Yn 2010 roedd ganddi boblogaeth o 2,278,691.[1]

Guayaquil
Mathdinas, dinas fawr, y ddinas fwyaf Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,650,288 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 15 Awst 1534 Edit this on Wikidata
AnthemCanción al Nueve de Octubre Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAquiles Alvarez Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−05:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Cali, Houston, Punta del Este, Paita, Concepción, Santiago de Chile, Shanghai, Haifa, Barranquilla, Maracaibo Edit this on Wikidata
NawddsantIago fab Sebedeus Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGuayaquil Edit this on Wikidata
GwladEcwador Edit this on Wikidata
Arwynebedd354.48 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr4 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Guayas, Gulf of Guayaquil Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau2.19°S 79.8875°W Edit this on Wikidata
Cod post090101 - 090158 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Guayaquil Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAquiles Alvarez Edit this on Wikidata
Map

Ymhlith yr enwogion o Guayaquil mae awduron Grŵp Guayaquil (Joaquín Gallegos Lara, Enrique Gil Gilbert, Demetrio Aguilera Malta, José de la Cuadra, ac Alfredo Pareja Diezcanseco), yr arlunydd Araceli Gilbert, a'r Arlywydd Guillermo Lasso.

Hanes golygu

Sefydlwyd gwladfa Sbaenaidd yn y 1530au ger aber Afon Babahoyo, ychydig i'r dwyrain o leoliad presennol y ddinas, gan Sebastián de Belalcázar, is-gapten i'r concwistador Francisco Pizarro. Dinistriwyd y wladfa ddwywaith gan frodorion yr ardal cyn i'r fforiwr Sbaenaidd Francisco de Orellana sefydlu Santiago de Guayaquil ar ei safle bresennol ym 1537. Yn ôl traddodiad, sefydlwyd ar 25 Gorffennaf, Gŵyl Sant Iago, a'i henwyd ar ôl y sant hwnnw a phenadur brodorol lleol o'r enw Guaya a'i wraig Quila.[1] Yn ystod yr oes drefedigaethol, pan oedd Ecwador yn rhan o Raglywiaeth Granada Newydd, ymosodwyd ar y ddinas yn fynych gan fycaniriaid. Ym 1822 bu cynhadledd Simón Bolívar a José de San Martín yn Guayaquil, ac yn sgil y cyfarfod enwog hwnnw cymerodd Bolívar yr awennau yn Chwyldro Periw. Cafwyd difrod mawr i'r ddinas o ganlyniad i ddaeargryn ym 1942.

Daearyddiaeth ac hinsawdd golygu

Dinas isel yw Guayaquil a chanddi hinsawdd drofannol, yn dwym a llaith. Yn hanesyddol cafodd ei hystyried yn lle heintus, ond ers 1920 mae datblygiadau peirianyddol a glanwaith gan y llywodraeth wedi gwella iechyd y ddinas.

Economi golygu

Guayaquil yw prif porthladd Ecwador yn ogystal â'i chanolfan fasnachol fewnol fwyaf, ac felly'n hollbwysig i economi'r wlad. Ym 1979 agorwyd yr allborthladd newydd Puerto Marítimo rhyw 10 km yn is ar Afon Guayas na ffiniau'r ddinas ei hun. Dyma'r derfynfa i fasnach ryngwladol Guayaquil, a chludir rhyw 90% o fewnforion Ecwador a 50% o'i hallforion drwy gyfrwng y borthladd hon. Mae diwydiannau cynradd ac eilradd y ddinas a'i chyrion yn hynod o amrywiaethol, gan gynnwys gweithdai peiriannau, purfeydd siwgr, tanerdai ar gyfer nwyddau lledr, ffowndrïau haearn, purfeydd olew, melinau llifio, a ffatrïoedd tecstilau, sment, cyffuriau meddyginiaethol, a nwyddau traul bychain. Ymhlith y brif allforion yw'r bananas, coffi, a ffa cacao a dyfir ym masn Afon Guayas i'r gogledd. Un o'r diwydiannau ar ei dyfiant yw ffermio berdys.

O ganlyniad i ddatblygiad diwydiannol Guayaquil, ymfudodd niferoedd mawr o weithwyr o gefn gwlad i'r ddinas, gan greu nifer o slymiau.

Adeiladau a mannau nodedig golygu

Codwyd eglwys hynaf Guayaquil, Santo Domingo, ym 1548. Lleolir sawl prifysgol yn Guayaquil, gan gynnwys y brifysgol gyhoeddus (sefydlwyd 1883) a'r brifysgol Gatholig (sefydlwyd 1962).

Cludiant golygu

Cysylltir ffyrdd Guayaquil i'r Ffordd Ban-Americanaidd. Maes Awyr Rhyngwladol José Joaquín de Olmedo yn Guayaquil yw ail faes awyr prysuraf Ecwador. Ni chysylltir Guayaquil â'r rheilffordd i Quito bellach, wedi i stormydd El Niño ddifrodi'r rheilffordd ym 1997–98.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Guayaquil. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Mai 2021.