Dinas ym Moroco yw Guelmim (Arabeg: كلميم‎, hefyd Goulimime neu Guelmin weithiau), sy'n gorwedd yn ne'r wlad ac a lysenwir "la porte du désert" ('Porth yr Anialwch'). Poblogaeth: 95,749 (cyfrifiad 2004).

Guelmim
Mathdinas, urban commune of Morocco, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth118,318 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith Guelmim Edit this on Wikidata
GwladBaner Moroco Moroco
Uwch y môr298 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau28.98°N 10.07°W Edit this on Wikidata
Map
Ar y ffordd i mewn i Guelmim

Mae'n brifddinas rhanbarth Guelmim-Es Semara sy'n cynnwys rhan o dde Moroco (i'r de o ranbarth Souss-Massa-Draâ) a gogledd tiriogaeth ddadleuol Gorllewin Sahara, er nad yw'n rhan o Orlelwin Sahara fel y cyfryw. Mae'n gorwedd 190 km i'r de o Agadir, 108 km o Tiznit, a 40 km o lan Cefnfor Iwerydd.

Cynhelir marchnad camelod yno ym Mehefin. Mae'r farchnad yn atgof o'r cyfnod pan fu Guelmim yn derminws a man cychwyn llwybr masnach ar draws y Sahara a'i gysylltai gyda Tombouctou (Timbuktu), ym Mali. Ceir adfeilion hen balas y Cadi (rhaglaw) lleol yno.

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Foroco. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato