Sympetrum danae
S. danae gwryw
Female S. danae
Statws cadwraeth
Heb ei werthuso (IUCN 3.1)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Is-urdd: Anisoptera
Teulu: Libellulidae
Genws: Sympetrum
Rhywogaeth: S. danae
Enw deuenwol
Sympetrum danae
(Sulzer, 1776)

Gwas neidr o deulu'r Libellulidae ('Y Picellwyr') yw'r Gwäell ddu (Lladin: Sympetrum danae; Saesneg: black darter; lluosog: gweyll du). Dyma'r teulu mwyaf o weision neidr drwy'r byd, gyda dros 1,000 o rywogaethau gwahanol. Mae i'w ganfod yn Ewrop, Asia a Gogledd America - ac yng ngwledydd Prydain. Dyma'r gwas neidr lleiaf yng ngwledydd Prydain, gan fesur 30 mm (1.2 in).

Mae hyd ei adenydd yn 34mm rhwng Mehefin a Medi ac mae'r oedolyn i'w weld yn hedfan ger llwyni, coed, llysdyfiant a phlanhigion eraill ar lanau llynnoedd llonydd a phyllau dŵr.

Mae aelodau'r genws Sympetrum yn cael eu hadnabod yn y Gymraeg fel 'gweyll', sef darn hir miniog a ddefnyddir i weu gwlân. Yng Nghanada a'r UDA cant eu hadnabod fel y 'meadowhawks' ac yn Lloegr fel 'darters'.

Disgrifiad golygu

Mae gan y gwryw a'r fenyw goesau du ac mae bonyn yr adenydd-cefn yn llydan. Mae gan y thoracs ochrau melyn wedi'u gwahanu gan banel du gyda thri smotyn melyn, fel y Sympetrum nigrescens. Ceir mwy o felyn ar abdomen y fenyw, sy'n tywyllu wrth iddi fynd yn hŷn, nes troi'n frown.

Paru golygu

Dim ond pyllau, glanau llynnoedd neu dir corsiog, asidig yw cynefin y Gwäell ddu, yn aml ceir brwyn ar y glanau. Mae'r fenyw yn dodwy ei hwyau wrth iddi hedfan, gan drochi pigyn ei habdomen yn y dŵr. Y gwanwyn canlynol, mae'r wyau'n deor ac mae'r larfa (neu'r cynrhonyn) yn datblygu'n sydyn, gan ddeor mewn llai na dau fis.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  • Black Meadowhawk Archifwyd 2012-03-21 yn y Peiriant Wayback., NJodes
  • "Sympetrum danae". British Dragonfly Society. Cyrchwyd 18 Awst 2010.

Dolen allanol golygu