Gwalch Marthin

rhywogaeth o adar
(Ailgyfeiriad o Gwalch Marth)
Gwalch Marthin
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Falconiformes
Teulu: Accipitridae
Genws: Accipiter
Rhywogaeth: A. gentilis
Enw deuenwol
Accipiter gentilis
(Linnaeus, 1758)
Accipiter gentilis

Mae Gwalch Marthin (Accipiter gentilis) yn aderyn rheibiol sy'n gyffredin trwy rannau helaeth o ogledd Ewrop, Asia a Gogledd America.

Mewn ardaloedd lle mae'r gaeafau'n arbennig o oer mae'n mudo tua'r de, ond mewn mannau eraill, megis gorllewin Ewrop, mae'n aros o gwmpas ei diriogaeth drwy'r flwyddyn.

Mae'n nythu mewn coed, ac yn hela adar hyd at faint Ffesant ac weithiau anifeiliad hyd at faint Ysgyfarnog. Mae'n medru symud yn gyflym drwy'r coed i ddal adar cyn iddynt wybod ei fod yno. Gellir adnabod gwalch Marthin wrth ei gynffon hir a'i adenydd gweddol fyr a llydan, sy'n ei alluogi i symud yn gyflym trwy'r coed. Mae'r ceiliog yn llwydlas ar ei gefn gyda llinellau llwyd ar y fron, a'r iâr yn fwy tywyll gyda llai o liw glas ar y cefn. Mae'n bosibl cymysgu rhwng gwalch Marthin a'r gwalch glas ar brydiau, ond mae gwalch Marthin yn aderyn mwy o faint. Fel y gwalch glas, mae'r iâr yn fwy na'r ceiliog. Mae'r ceiliog rhwng 49 a 56 cm o hyd a 93–105 cm ar draws yr adenydd. Er bod y mesuriadau yma yn weddol debyg i iâr gwalch glas, mae gwalch Marthin yn ymddangos yn aderyn mwy o faint. Mae'r iâr yn fwy o lawer, 58–64 cm o hyd a 108–127 cm ar draws yr adenydd, tua'r un maint â bwncath.

Credir i walch Marthin ddiflannu o Gymru erbyn y 19eg ganrif, ond bod adar wedi eu rhyddhau yn ddiweddarach gan hebogwyr a'r rheini wedi ail-sefydlu'r boblogaeth. Mae wedi manteisio ar y coedwigoedd a blannwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth, sy'n cynnig digon o le i nythu, ac mae'n debyg bod tua chant o barau bellach yn nythu yng Nghymru, a'r nifer yn cynyddu.