Gwareiddiad Minoaidd

Y Gwareiddiad Minoaidd yw'r enw a ddefnyddir am y gwareiddiad cynnar a ddatblygodd ar ynys Creta yn ystod Oes yr Efydd. Blodeuodd o tua'r 27ain ganrif CC hyd tua 1450 CC, pan olynwyd ef gan y Gwareiddiad Myceneaidd, efallai o ganlyniad i goncwest o dir mawr Gwlad Groeg.

Gwareiddiad Minoaidd
Mathdiwylliant archeolegol, civilization, hen wareiddiad, cyfnod o hanes, arddull Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlMinos Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolOes yr Efydd, history of Crete Edit this on Wikidata
LleoliadCreta Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.309722°N 24.893333°E Edit this on Wikidata
Map
Ffresco o Cnossos, yn dangos tair merch

Rhoddwyd yr enw "Minoaidd" iddo gan yr archaelegydd Prydeinig Syr Arthur Evans, ar ôl y Brenin Minos ym mytholeg Roeg. Bu ef yn cloddio yn Cnossos, y mwyaf adnabyddus o'r safleoedd Minoaidd, lle roedd palasau cymhleth gydag addurniadau tarawiadol. Safleoedd eraill tebyg yw Phaistos, Malia, a Kato Zakros.

Creta yn y cyfnod Minoaidd
Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.