Mae gwasael neu wasael yn fath o ddiod alcoholaidd wedi'i wneud o gwrw neu seidr cynnes gyda sbeisys a arferid ei yfed rhwng y Nadolig a Gŵyl Ystwyll (6ed o Ionawr heddiw, 17fed o Ionawr cyn newid y calendr). Gwaseila ydy'r arferiad o fynd o dŷ i dŷ gan gario'r ffiol yn llawn o'r wasael a hynny tan ganu; ac a gysylltid gyda'r Fari Lwyd.[1] Gall y gair hefyd olygu'r wledd, neu'r dathliad.

Yn ôl yr hanesydd Robin Gwyndaf, fe all seremoni'r Fari Lwyd fod yn hen amrywiad ar yr hen arfer o waseila pryd yr ymgorfforwyd ynddi elfen o gwlt ceffyl.[2] Arferid gwaseila ar wyliau penodol, megis Calan Gaeaf, Y Nadolig, Nos Ystwyll, Gŵyl Fair y Canhwyllau a Chalan Mai.

Yng Ngwlad yr Haf mae'r traddodiad o 'waseilio'r Berllan' yn parhau hyd heddiw, sef mintai'n canu i goed afalau, er mwyn iddynt ddwyn ffrwyth yn y gwanwyn. Ceir nifer o gemau'n ymwneud ag afalau yn ystod dathliadau Calan Gaeaf e.e. 'twco fale', sy'n cryfhau gwreiddiau Celtaidd y ddefod hon. Yn ystod y seremoni yn y berllan falau, byddai Brenin a Brenhines y pentref yn arwain y fintai i'r berllan, yn trochi darn o fara wedi'i grasu mewn seidr cynnes ac yn ei roi yng nghanghennau un o'r coed er mwyn dennu ysbrydion da. Tolltir gweddill y seidr o amgylch bonyn y goeden er mwyn diarddel yr ysbrydion drwg - a gwneir sŵn clecian uchel (defnyddir gynnau heddiw!) fel symbol ohonynt yn ffoi. Yna, dawnsia'r fintai o amgylch y coed gan eu serenadau.[3] Mae dawnsio fel hyn o amgylch y pren yn cysylltu gyda'r hen arferiad o ddawnsio o amgylch y Fedwen Fai. Mae'r cysylltiad gyda'r afallen yn cael ei gryfhau yng Ngeiriadur Thomas Lloyd, Plas Power pan mae'n diffinio'r wasael fel: 'powlen o ddiod a wnaed o afal, cwrw a siwgwr.'

Roedd ffiol y wasail yn arbennig o hardd a chedwir llawer o rai traddodiadol yn Sain Ffagan, wedi'u haddurno â dolenni cylchog a rhubannau.

Geirdarddiad golygu

Tarddiad y gair, mae'n debyg, yw "Wassail" (neu 'iechyd da'!) yn Saesneg,[4] ond mae'r ddefod Geltaidd hon yn llawer hŷn na'r gair. Mae'r gair yn ymddangos gyntaf mewn Cymraeg ysgrifenedig yn 1592 yng ngwaith Siôn Dafydd Rhys.[1]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1  gwasael. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 11 Awst 2022.
  2. Chwedlau Gwerin Cymru gan Robin Gwyndaf, Amgueddfa Werin Cymru 1995.
  3. Papour y Guardian; adalwyd Nos Ystwyll, 2015
  4. http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?gwasael

Dolenni allanol golygu