Y broses ddiwydiannol o gynhyrchu nwyddau o ddefnyddiau crai drwy lafur a pheiriannau yw gweithgynhyrchu. Gan amlaf digwyddir yn drefnus gyda rhaniad llafur, a gan wneir llawer o weithgynhyrchu mewn ffatrïoedd fe'i elwir hefyd yn ffatrïaeth.[1] Yn ôl diffiniad manylach, gweithgynhyrchu yw wneuthuro neu gydosod darnau cydrannol yn gynhyrchion gorffenedig ar raddfa eang.[2]

Cychwynnodd y broses weithgynhyrchu fodern yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, yn sgil dyfodiad rhaniad llafur, awtomateiddio a'r system ffatrïoedd. Datblygodd yn sylweddol yn y ddwy ganrif olynol, yn enwedig o ystyried masgynhyrchu a'r rhes gydosod.

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, [manufacturing].
  2. (Saesneg) manufacturing. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Awst 2015.
  Eginyn erthygl sydd uchod am economeg neu arianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.