Gwenllian Lansdown

prif weithredwr Cymreig a chyn-gynghorydd

Prif Weithredwr Mudiad Meithrin yw Dr Gwenllian Lansdown (ganed 1979, Llanelwy). Bu'n Gynghorydd sir rhwng 2004 a 2010 gan gynrychioli ward Glan yr Afon ar Gyngor Dinas Caerdydd; ac yn Brif weithredwr Plaid Cymru rhwng 2007 a 2011.[1][2]

Gwenllian Lansdown
Ganwyd1979 Edit this on Wikidata
Llanelwy Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Cymru Edit this on Wikidata

Fe'i haddysgwyd yng Ngholeg y Santes Hilda, Rhydychen rhwng 1997 a 2001 (fel Arddangoswr, ac enillodd Faglor y Celfyddydau mewn Ieithoedd Modern) a Phrifysgol Caerdydd (MSc Econ a PhD mewn Theori Gwleidyddiaeth). Gweithiodd fel tiwtor mewn Gwleidyddiaeth tra'n gwneud ymchwil ar gyfer ei PhD.[3]

Wedi gweithio i Blaid Cymru bu'n olygydd y cofnodolyn ymchwil academaidd ar-lein, Gwerddon, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol rhwng 2011-14.[4]

Penodwyd hi yn Brif Weithredwr ar Mudiad Meithrin (Mudiad Ysgolion Meithrin gynt) yn 2014.[5] Fel ei rôl yn y swydd yma mae wedi siarad yn aml ar strategaeth i ddatblygu addysg blynyddoedd cynnar, gofal plant a bod hynny yn y Gymraeg.[6]

Yn 2019 bu iddi ymuno â Bwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru.[7] Mae hi hefyd yn gweithredu fel 'Unigolyn Cyfrifol' yn ei Chylch Meithrin lleol fel gwirfoddolwr.

Personol golygu

Mae hi'n briod â Arwyn Groe, ffarmwr a bardd. Mae ganddynt bedwar o blant. Mae hi'n arddel yr enw Dr Gwenllian Lansdown Davies mewn fforymau cyhoeddus a phroffesiynnol.[8]

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu



   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.