Gwenllian ferch Gruffudd ap Cynan

tywysoges Gymreig

Merch Gruffudd ap Cynan a'i wraig Angharad ferch Owain, chwaer Owain Gwynedd a gwraig Gruffudd ap Rhys o Gaeo, tywysog y Deheubarth, oedd Gwenllian (bu farw 1136). Drwy ei phriodas â Gruffudd ap Rhys o Gaeo a hithau’n aelod o deulu Aberffraw roedd yn cyfuno llinach frenhinol y Deheubarth a Gwynedd. Daeth yn enwog yn hanes Cymru oherwydd ei hangerdd dewr yn erbyn ymosodiad y Normaniaid yn 1136. Lladdwyd hi yn y frwydr a ymladdwyd gerllaw Castell Cydweli ac mae’n enghraifft anghyffredin yn hanes Cymru’r Oesoedd Canol o fenyw yn dangos arweinyddiaeth mewn brwydr filwrol.

Gwenllian ferch Gruffudd ap Cynan
Ganwyd1097 Edit this on Wikidata
Aberffraw Edit this on Wikidata
Bu farw1136 Edit this on Wikidata
Castell Cydweli Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
TadGruffudd ap Cynan Edit this on Wikidata
MamAngharad ferch Owain Edit this on Wikidata
PriodGruffudd ap Rhys, Cadwgan ap Bleddyn Edit this on Wikidata
PlantRhys ap Gruffudd, Maredudd ap Gruffudd, Nest ferch Gruffydd ap Rhys, Gwladus ferch Gruffudd, Rhys Fychan ap Gruffudd ap Rhys ap Tewdwr, Nn ap Gruffudd ap Rhys ap Tewdwr, Owain ap Gruffudd ap Rhys ap Tewdwr Edit this on Wikidata
LlinachLlinach Dinefwr, Llinach Aberffraw Edit this on Wikidata

Mae’n aml yn cael ei phortreadu mewn dehongliadau celfyddydol ohoni fel arwres ddewr gyda’i chleddyf yn ei llaw neu’n teithio mewn cerbyd i mewn i frwydr, yn debyg i ddelwedd Buddug. Roedd y ddelwedd hon ohoni yn cyd-fynd â’r ymdrech lew a wnaeth i amddiffyn teyrnas y Deheubarth yn 1136.

Bywyd Cynnar golygu

Gwenllian oedd merch ieuengaf Gruffudd ap Cynan, Tywysog Gwynedd, a’i wraig, Angharad. Ganwyd hi ar Ynys Môn, lle'r oedd pencadlys teulu brenhinol Aberffraw, a hi oedd yr ieuengaf o wyth o blant; pedair chwaer hŷn, sef Mared, Rhiannell, Susanna ac Annest, a thri brawd iau, sef Cadwallon, Owain a Cadwaladr.[1] Hi oedd gor-or-or wyres Brian Bóruma mac Cennétig, Brenin Uchel Iwerddon.

Rhagnell oedd enw ei nain o dras Wyddelig, a bu Gruffydd ap Rhys, ei darpar ŵr, yn alltud yn fachgen ifanc yn Iwerddon ar ôl i'w dad, Rhys ap Tewdwr, Arglwydd y Deheubarth, gael ei ladd yn 1093. Pan ddychwelodd Gruffydd i Gymru, dim ond cwmwd Caeo oedd ar ôl o’i deyrnas[2].

 
Argraff[dolen marw] o Owain Gwynedd, brawd Gwenllian, 1919

Roedd Gwenllian yn ferch eithriadol o brydferth a thrawiadol. Wedi i Gruffydd ap Rhys deithio i Wynedd tua 1113 i gwrdd â’i thad, cyfarfu Gwenllian â Gruffydd a phenderfynodd y ddau redeg i ffwrdd a phriodi. Priododd y ddau yn fuan wedi hynny. Ganwyd y plant canlynol iddynt:[1]

  • Morgan ap Gruffydd (c.1116 - 1136)
  • Maelgwn ap Gruffydd (c.1119 - 1136)
  • Gwladus ferch Gruffydd (c.1125 - ar ôl Gorffennaf 25, 1175)[3]
  • Nest ferch Gruffydd (c.1125 - ar ôl Gorffennaf 25, 1175)
  • Owain ap Gruffydd (c.1126 - ar ôl 1155)
  • Maredudd ap Gruffydd (c.1130/1 - 1155)
  • Rhys “Fychan” ap Gruffydd (c.1132 - Ebrill 24, 1197) [4]
  • Sion ap Gruffydd (c.1134 - ar ôl 1155)

Aeth Gwenllian i fyw gyda’i gŵr a’i theulu yng nghartref teuluol ei gŵr yn Ninefwr yn y Deheubarth. Roedd y Deheubarth yn wynebu peryglon cyson oherwydd goresgyniad y Normaniaid yn ne Cymru, gyda’r Normaniaid, y Saeson a’r Fflemiaid yn sefydlu troedle mewn gwahanol rannau o’r wlad. Pan laddwyd Rhys ap Tewdwr, Brenin y Deheubarth, mewn brwydr ger Aberhonddu yn 1093 wrth iddo amddiffyn ei deyrnas rhag y Normaniaid, agorwyd y llifddorau i oresgyniad y Normaniaid yng ngorllewin Cymru. Yn y blynyddoedd dilynol, adeiladwyd cestyll ganddynt yn Aberteifi a Phenfro, lansiwyd cyrchoedd ar draws Ceredigion a Dyfed, ac yn y gogledd roeddent yn meddiannu a rheoli tiroedd gyda’r un agwedd ddidrugaredd.[5] Tra'r oedd y gwrthdaro rhwng y Normaniaid a’r Cymry yn parhau, roedd teulu brenhinol y Deheubarth yn aml yn cael eu dadleoli, a byddai Gwenllian yn aml yn ymuno â’i gŵr yn eu cadarnleoedd mynyddig a choediog er mwyn ffoi rhag y cythrwfl. O’r mannau hyn, byddai Gwenllian a’i gŵr yn arwain ymosodiadau dialgar - hynny yw, ymosodiadau sydyn a chwim ar y safleoedd ym meddiant y Normaniaid yn y Deheubarth.

Roedd y sefyllfa wleidyddol yn gyfnewidiol iawn gyda thiroedd yn cael eu goresgyn a’u meddiannu gan y Normaniaid yng Nghymru ac roedd Gruffydd a Gwenllian yn gorfod wynebu bygythiadau cyson yn y Deheubarth er mwyn goroesi.[6]

Gwrthryfel Mawr 1136 golygu

 
Cydweli, y Castell lle collodd Gwenllian ei bywyd yn ymladd yn erbyn y goresgynwyr Normanaidd

Erbyn 1136 roedd y Cymry wedi cael cyfle i adennill y tiroedd a gollwyd i Arglwyddi’r Mers. Roedd y sefyllfa wleidyddol yn Lloegr yn galluogi lansio ymosodiad. Disodlwyd yr Ymerodres Matilda gan ei chefnder, Stephen de Blois, rhag etifeddu gorsedd ei thad, Harri I, fel brenin Lloegr yn 1135.[7][8] Wynebodd Stephen wrthwynebiad i’w deyrnasiad oddi wrth Arglwyddi’r Mers a bu’n rhaid iddo ddelio â nifer o wrthryfeloedd mewnol oddi wrth farwniaid a gelynion eraill iddo. Arweiniodd hyn at gyfnod yr ‘Anarchiaeth’ yn Lloegr. Roedd anhrefn ac ansefydlogrwydd llwyr yn Lloegr a daeth y wlad i drothwy rhyfel cartref.

Achosodd y gwrthdaro a’r ansefydlogrwydd erydiad yn awdurdod coron Lloegr. O ganlyniad, cododd gwrthryfel yn ne Cymru, wrth i Hywel ap Maredudd, Arglwydd Brycheiniog, gasglu ei filwyr ynghyd â gorymdeithio i Benrhyn Gŵyr. Trechwyd y Normaniaid a’r Saeson ym Mrwydr Garn Goch.[7] Gwelodd y Cymry gyfle i gael gwared ar y goresgynwyr Normanaidd o’u tiroedd. Wedi ei ysgogi gan lwyddiant Hywel o Frycheiniog, rhuthrodd Gruffydd ap Rhys i’r gogledd i gwrdd â’i dad-yng-nghyfraith, Gruffudd ap Cynan, i recriwtio mwy o gymorth ar gyfer y gwrthryfel. Cymerodd Gwenllian yr awenau yn y Deheubarth yn absenoldeb ei gŵr.

Tra'r oedd gŵr Gwenllian yng Ngwynedd yn ceisio cytuno ar gynghrair gyda’i thad yn erbyn y Normaniaid, penderfynodd Maurice de Londres a Normaniaid eraill arwain cyrchoedd yn erbyn y Cymry yn y Deheubarth ac felly gorfodwyd Gwenllian i gasglu byddin i’w hamddiffyn.[9] Gwelodd y Normaniaid gyfle i lansio ymosodiad a dial ar y Cymry am eu hymosodiadau herfeiddiol blaenorol. Mewn brwydr ger Castell Cydweli,[10] cafodd byddin Gwenllian ei hamgylchynu o’r ddwy ochr gan fyddinoedd Normanaidd, un oddi uchod iddi o gyfeiriad Mynydd y Garreg a’r llall o’r ochr dan arweiniad arglwydd Normanaidd Cydweli a Charnwyllion, Maurice de Londres.[11] Cipiwyd Gwenllian yn ystod y frwydr a dienyddiwyd hi gan y Normaniaid. Er gwaethaf y ffaith ei bod o waed brenhinol ac yn fam, cafodd ei dienyddio ar orchymyn de Londres. Yn ystod y frwydr lladdwyd ei mab Morgan a chafodd Maelgwyn ei gipio ac yna ei ddienyddio.[7]

Er iddi golli'r frwydr ac er mor drasig oedd yr amgylchiadau, ysbrydolodd ei hamddiffyniad o deyrnas y Deheubarth eraill yn ne Cymru i godi mewn gwrthryfel. Arweiniwyd y Cymry yng Ngwent gan Iorwerth ab Owain (ŵyr Caradog ap Gruffydd, cyn-reolwr Gwent a gafodd ei ddisodli gan oresgyniad y Normaniaid). Cudd-ymosodwyd ar Richard Fitz Gilbert de Clare, sef yr arglwydd Normanaidd oedd yn rheoli Ceredigion, gan Iorwerth a’i filwyr, ac fe'i lladdwyd.

Pan glywyd y newyddion yng Ngwynedd am farwolaeth Gwenllian a’r gwrthryfel yng Ngwent, ymosododd brodyr Gwenllian, Owain a Cadwaladr, ar diroedd a reolwyd gan y Normaniaid yng Ngheredigion, gan feddiannu Llanfihangel, Aberystwyth a Llanbadarn. Roedd y tiroedd hyn a’r cyfan o Ystrad Tywi wedi eu hadfeddiannu ganddynt erbyn tua 1150.[12]

Yn Hydref 1136 ym mrwydr Crug Mawr ger Aberteifi cafodd y Normaniaid golled drom yn erbyn brodyr Gwenllian, sef Cadwallon ac Owain Gwynedd, a’i thad, Gruffydd ap Cynan. Bu’n fuddugoliaeth bwysig o ran helpu Owain Gwynedd i ymestyn ffiniau ei deyrnas ar farwolaeth ei dad yn 1137.[13]

Gwaddol golygu

Mae hanes Gwenllian yn aml yn cael ei gymharu ag arweinydd benywaidd arall, sef Buddug. Gwenllian yw’r unig fenyw a arweiniodd fyddin o Gymry mewn brwydr yn ystod yr Oesoedd Canol ac yn wir mae’n perthyn i griw bach o ferched ar draws hanes sydd wedi ymgymryd â’r fath rôl. Mae’r cae lle credir y digwyddodd y frwydr wedi ei leoli yn agos i Gastell Cydweli ac i’r gogledd o’r dref, ger Mynydd y Garreg. Enw’r cae yw Maes Gwenllian, lle mae ffynnon wedi ei enwi ar ei hôl, sydd yn ôl yr hanes yn tarddu lle bu hi farw.

Am ganrifoedd wedi ei marwolaeth, byddai’r Cymry yn gwaeddi ‘Dial dros Gwenllian’ fel rhyfelgan pan fyddent mewn brwydr. Yn ôl yr hanesydd, Philip Warner, roedd Gwenllian a’i gŵr yn cynnal cyrchoedd ar y Normaniaid, y Fflemiaid a’r Saeson yn y Deheubarth, gan gymryd nwyddau ac arian cyn ei ailddosbarthu ymhlith Cymry'r Deheubarth oedd wedi cael eu dadfeddiannu gan y gwladychwyr hyn.

Mab ieuengaf Gwenllian, Rhys ap Gruffydd, oedd yr Arglwydd Rhys, sef Tywysog Teyrnas y Deheubarth a threfnydd yr Eisteddfod gyntaf yng Nghastell Aberteifi yn 1176.[14]

Ar 23 Mai 1991, dadorchuddiwyd cofeb er cof am Gwenllian yn y castell hwnnw. Codwyd yr arian at hyn gan aelodau o Ferched y Wawr ledled Cymru. Arweiniwyd y seremoni gan Gwynfor Evans.

Awduraeth y Mabinogi golygu

Roedd Dr Andrew Breeze yn dadlau mai Gwenllian o bosibl oedd awdur ‘Pedair Cainc y Mabinogi’, er mai prin yw’r dystiolaeth i brofi hynny.[15]

Teulu golygu

16. Idwal ap Meurig ap Idwal Foel
8. Iago ab Idwal ap Meurig
4. Cynan ab Iago
2. Gruffudd ap Cynan
20. Sigtrygg Silkbeard
10. Amlaíb mac Sitriuc
21. Sláine ingen Briain ferch Brian Boru
5. Ragnhilda o Iwerddon
1. Gwenllian ferch Gruffydd
24. Einion ab Owain
12. Edwin ab Einion
6. Owain ab Edwin
3. Angharad ferch Owain

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Gwenllian verch Gruffydd (1085-1136)". www.mathematical.com. Cyrchwyd 2020-09-25.
  2. Evans, Gwynfor, 1912- (1986). Seiri cenedl y Cymry. Llandysul: Gwasg Gomer. t. 67. ISBN 0-86383-244-X. OCLC 16692917.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  3. "GWENLLIAN (died 1136), | Dictionary of Welsh Biography". biography.wales. Cyrchwyd 2020-09-25.
  4. "RHYS ap GRUFFYDD (1132 - 1197), lord of Deheubarth, known in history as 'Yr Arglwydd Rhys' ('The lord Rhys'). | Dictionary of Welsh Biography". biography.wales. Cyrchwyd 2020-09-25.
  5. Evans, Gwynfor, 1912- (1986). Seiri cenedl y Cymry. Llandysul: Gwasg Gomer. t. 66. ISBN 0-86383-244-X. OCLC 16692917.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  6. Warner, Philip, 1914-2000. Famous Welsh battles. Class Warfare. t. 79. ISBN 1-85959-520-0. OCLC 975990471.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  7. 7.0 7.1 7.2 Lloyd, J.E. A History of Wales; From the Norman Invasion to the Edwardian Conquest, Barnes & Noble, Inc. 2004. tud. 80, 82–85.
  8. Davies, John, 1938- (2007). A history of Wales (arg. Rev. ed). London: Penguin. t. 124. ISBN 0-14-028475-3. OCLC 82452313.CS1 maint: multiple names: authors list (link) CS1 maint: extra text (link)
  9. "Kidwelly Castle". www.kidwellyhistory.co.uk. Cyrchwyd 2020-09-25.
  10. "MAES GWENLLIAN, SITE OF BATTLE, MYNYDDYGARREG | Coflein". www.coflein.gov.uk. Cyrchwyd 2020-09-25.
  11. Evans, Gwynfor, 1912- (1986). Seiri cenedl y Cymry. Llandysul: Gwasg Gomer. t. 69. ISBN 0-86383-244-X. OCLC 16692917.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  12. Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. t. 120. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  13. Evans, Gwynfor, 1912- (1986). Seiri cenedl y Cymry. Llandysul: Gwasg Gomer. t. 70. ISBN 0-86383-244-X. OCLC 16692917.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  14. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Davies, John, 1938-, Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 2008. t. 286. ISBN 978-0-7083-1954-3. OCLC 213108835.CS1 maint: others (link)
  15. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Davies, John, 1938-, Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 2008. t. 404. ISBN 978-0-7083-1954-3. OCLC 213108835.CS1 maint: others (link)

Llyfryddiaeth golygu

  • J. E. Lloyd, A History of Carmarthenshire (Caerdydd, 1935). t. 140
  • Peter Newton, Gwenllian: The Welsh Warrior Princess (Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1992).