Gwennan Harries

sylwebydd a chyn chwaraewr pêl-droed o Gymraes

Sylwebydd a cyn chwaraewr pêl-droed o Gymraes yw Gwennan Mary Harries (ganwyd 5 Ionawr 1988). Chwaraeodd ddau gyfnod gyda chlwb FA WSL Academi Bryste, wedi'i rannu â thri thymor i ffwrdd yn chwarae i Everton. Cafodd ei geni ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac enillodd 56 cap i dîm pêl-droed cenedlaethol menywod Cymru, gan sgorio 18 gôl.

Gwennan Harries
Ganwyd5 Ionawr 1988 Edit this on Wikidata
Pen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethpêl-droediwr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auCardiff City Ladies F.C., Bristol City W.F.C., Everton F.C., Bristol City W.F.C., Tîm pêl-droed cenedlaethol merched Cymru Edit this on Wikidata
Safleblaenwr Edit this on Wikidata

Gyrfa clwb golygu

Chwaraeodd Harries i Ddinas Caerdydd ac Academi Bryste cyn ymuno ag Everton Ladies ym mis Gorffennaf 2009.[1] Enillodd fedal enillydd Cwpan Merched FA yn 2010, ond ni chwaraeodd yn y rownd derfynol. Dychwelodd Harries i Academi Bryste ym mis Chwefror 2013.[2]

Daeth ei ymddangosiad cyntaf i Ddinas Caerdydd yn erbyn Newton Abbot ym mis Hydref 2002, a sgoriodd 15 gôl yn ei thymor cyntaf.[3]

Gyrfa ryngwladol golygu

Enillodd Harries 21 o gapiau i dîm dan-19 Cymru, gan sgorio naw gôl. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Moldofa yn nhymor 2005–06. Fel myfyriwr yn UWIC, cynrychiolodd Harries Prydain Fawr yng Ngemau Prifysgol y Byd ddwywaith, gan chwarae yn nhwrnamaint 2007 yn Bangkok ac yn nhwrnamaint 2009 yn Belgrade.[4]

Mynegodd Harries siom pan wrthododd FA Cymru ganiatáu i’w chwaraewyr gynrychioli tîm pêl-droed Olympaidd Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012.[5] Ym mis Chwefror 2011, penodwyd Harries yn llysgennad FA Cymru ar gyfer pêl-droed benywaidd. [6]

Yn sgil anaf i'w phen-glin a gafwyd ym mis Tachwedd 2012 cyn gêm gyfeillgar â'r Iseldiroedd ymddeolodd Harries wedi brwydr tair blynedd i adennill ffitrwydd. Meddai: "gwnaed y penderfyniad gyda chalon drom ond pen realistig". [7]

Bywyd personol golygu

Yn 2012 cymhwysodd fel athrawes a bu'n gwneud ymarfer dysgu yn Ysgol Gyfun Glantaf.[8] Ymunodd a'r ysgol yn llawn amser yn 2015 fel Athrawes Addysg Gorfforol.[9] Hi oedd y pundit benywaidd cyntaf ar raglen Sgorio S4C ym mis Mawrth 2015. [10]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Everton win group opener". Girls in Football. 31 Gorffennaf 2009. Cyrchwyd 27 Awst 2009.
  2. "Gwennan Harries: Bristol Academy re-sign Everton Ladies striker". British Broadcasting Corporation. 12 Chwefror 2013. Cyrchwyd 13 Chwefror 2013.
  3. "Gwennan Harries – Striker". Cardiff City LFC. Cyrchwyd 7 Ebrill 2011.
  4. "Great Britain women's football squad announced for World University Games". British Universities & Colleges Sport. 18 Mehefin 2009. Cyrchwyd 27 Awst 2009.
  5. "FAW's Olympic stance frustrates Gwennan Harries". BBC Sport. London. 14 Chwefror 2011. Cyrchwyd 7 Ebrill 2011.
  6. "Ambassador role for Gwennan Harries". She Kicks. 21 Chwefror 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 7 Ebrill 2011.
  7. "Gwennan Harries: Injury forces Wales women's striker to retire". BBC Sport. 3 Rhagfyr 2015. Cyrchwyd 17 Rhagfyr 2015.
  8. Wightwick, Abbie (29 Mehefin 2012). "Wales and Everton striker Gwennan Harries on women's football". Western Mail. Cyrchwyd 13 Chwefror 2013.
  9.  ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CORFF LLYWODRAETHU 2015-16. Ysgol Glantaf (Hydref 2016). Adalwyd ar 26 Mehefin 2021.
  10. Hughes, Seiriol (6 Mawrth 2015). "Gwennan Harries joins the Sgorio team". S4C. Cyrchwyd 17 Rhagfyr 2015.

Dolenni allanol golygu