Gwent

sir seremonïol a hen sir llywodraeth leol yn ne-ddwyrain Cymru

Mae Gwent yn 'sir seremonïol' yn ne-ddwyrain Cymru. Bu'n sir weinyddol rhwng 1974 a 1996. Fe'i cedwir at bwrpasau seremonïol sy'n ymwneud â swydd Uchel Siryf Gwent fel cynrychiolydd Brenhines y DU yn unig. Defnyddir yr enw gan sawl cymdeithas ranbarthol hefyd, e.e. Ymddiriedolaeth Natur Gwent.

Gwent
Mathsiroedd cadwedig Cymru, cyn endid gweinyddol tiriogaethol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,553 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaDe Morgannwg, Morgannwg Ganol, Powys, Swydd Henffordd, Swydd Gaerloyw Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.789°N 3.018°W, 51.8°N 3°W Edit this on Wikidata
Map
Gweler hefyd Teyrnas Gwent
Gwent yng Nghymru, 1974–96

Hanes golygu

Mae hanes hir o ddefnyddio'r enw am y rhan hon o Gymru ar ochr orllewinol rhan fwyaf deheuol Glawdd Offa. Roedd Teyrnas Gwent yn un o hen deyrnasoedd y Cymry. Mae tiriogaeth sir seremonïol Gwent yn debyg i diriogaeth yr hen Sir Fynwy, a grëwyd adeg y Deddfau Uno, ac am flynyddoedd byddai cyfeirio mewn ffynonellau Seisnig at 'Gymru a Sir Fynwy' (Wales & Monmouthshire). Yr unig wahaniaeth rhyngddi a siroedd eraill Cymru oedd ei bod yn rhan o gylchdaith llysoedd Rhydychen yn hytrach na Chymru.

Edrychir ar yr ardal heddiw fel ardal Seisnig ond roedd yn ardal Gymreig iawn tan ddechrau'r chwyldro diwydiannol. Yn y 14g a'r 15g roedd beirdd fel Guto'r Glyn a Lewis Glyn Cothi yn cael nawdd gan ŵyr mawr yr ardal. Cyfeiria Dafydd ap Gwilym at un o deulu'r Morganiaid Ifor ap Llywelyn fel Ifor Hael.

Gyda dyfodiad y chwyldro diwydiannol ffurfiwyd nifer o gymdeithasau Cymraeg yng Ngwent. Yr enwocaf oedd Cymdeithas y Cymreigyddion.

Gwent heddiw golygu

Y siroedd cyfoes yn ardal Gwent yw:

  Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.