Gwerful Mechain

bardd

Bardd ffeministaidd Gymraeg o Bowys a ganai yn ail hanner y 15g oedd Gwerful Mechain neu Gwerful ferch Hywel Fychan (fl. c. 1460 - wedi 1502?). Mae hi'n enwog am ei cherddi erotig beiddgar - sy'n enghreifftiau rhagorol o ganu maswedd Cymraeg yr Oesoedd Canol - ac yn perthyn i ddosbarth prin o feirdd benywaidd yn Ewrop yr Oesoedd Canol.[1]

Gwerful Mechain
GanwydMechain Edit this on Wikidata
Man preswylPowys Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Erthygl am y brydyddes o Fechain yw hon. Am ferched eraill o'r un enw gweler Gwerful (tudalen gwahaniaethu).

Bywgraffiad golygu

Fel mae ei henw yn ei awgrymu, brodor o ardal Mechain ym Mhowys oedd Gwerful. Ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael amdani, ar wahân i'w cherddi. Roedd hi'n ferch i Hywel Fychan a'i wraig Gwenhwyfar ferch Dafydd Llwyd. Roedd ei hen-hen-daid, Madog ab Einion, yn uchelwr pwysig ym Mechain. Roedd ei thad, Hywel Fychan, yn byw yng nghwmwd Mechain Is Coed. Priododd Gwerful John ap Llywelyn Fychan a chafodd ddwy ferch o'r un enw ganddo (neu un ferch), sef Mawd. Yn ôl un traddodiad, cadwai dafarn.[2]

Dengys tystiolaeth ei chanu bod Gwerful yn ymdroi yng nghymdeithas lenyddol gogledd Powys. Doedd hi ddim yn fardd proffesiynol ac mae'n debyg iddi ddysgu barddoni ar yr aelwyd. Roedd hi'n adnabod sawl bardd arall yn yr ardal ac yn ymryson â hwy, ac yn eu plith y daroganwr enwog Dafydd Llwyd o Fathafarn (a all fod yn gariad iddi[3]), y cywyddwr medrus Ieuan Dyfi, a Llywelyn ap Gutun.[2]

Cerddi golygu

Priodolir tua 20 o destunau iddi yn y llawysgrifau. Mae'r golygiad diweddaraf o'i gwaith yn derbyn wyth o'r rhain fel testunau dilys a phump arall o awduraeth amheus a allai fod yn perthyn iddi. Yn ogystal ceir cerddi gan Ieuan Dyfi, Dafydd Llwyd a Llywelyn ap Gutun sy'n perthyn i ymrysonau barddol rhyngddynt a Gwerful.[2]

Er ei bod yn enwog am ei chanu maswedd, mae ei gwaith yn cynnwys dwy gerdd grefyddol, un ar Ddioddefiant Crist a'r llall ar angau a Dydd y Farn.[2]

O blith ei cherddi erotig, mae'n debyg mai 'Cywydd y Gont' (neu 'Cywydd y Cedor') yw'r testun mwyaf adnabyddus; cyfieithwyd y teitl i'r Saesneg gan Dafydd Johnston fel “The Female Genitals.”; cyfieithiad Lauren Cocking yw “Poem to the vagina”. Mae hwn yn gywydd crefftus sy'n dyfalu (neu'n cymharu)'r organ rhywiol benywaidd ac yn ei foli.[1] Dyma enghraifft, lle mae Gwerful yn beio'r beirdd am esgeuluso'r rhan hon o'r corff yn eu canu serch confensiynol:

Gado'r canol heb foliant
A'r plas lle'r enillir plant,
A'r cedor clyd, hyder claer,
Tynerdeg, cylch twn eurdaer,
Lle carwn i, cywrain iach,
Y cedor dan y cadach.[1]

Mae'n bosib, wrth gwrs fod gwerful a'i thafod yn ei boch, ac i raddau'n cystwyo Dafydd ap Gwilym am ei Cywydd i'r Gal (cywydd i'r Pidyn).

Am flynyddoedd sensorwyd y canu hwn gan ysgolheigion Cymraeg crefyddol - yn gyhoeddus, o leiaf - ond erbyn y 3ydd mileniwn, cydnabyddwyd Gwerful fel un o'r mwyaf o feirdd benywaidd yr Oesodd Canol a chaiff ei cherddifel cerddi unigryw ac arloesol.[1]

Llyfryddiaeth golygu

  • Nerys Ann Howells (gol.), Gwaith Gwerful Mechain ac eraill (Aberystwyth, 2001). Cyfres Beirdd yr Uchelwyr.
  • Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol/Medieval Welsh Erotic Poetry (Caerdydd, 1991). Cyfrol sy'n cynnwys "Cywydd y Cedor" ac "I Wragedd Eiddigeiddus", gyda chyfieithiad.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol/Medieval Welsh Erotic Poetry (Caerdydd, 1991).
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Nerys Ann Howells (gol.), Gwaith Gwerful Mechain ac eraill (Aberystwyth, 2001). Rhagymadrodd.
  3. [https://lithub.com/on-the-gleefully-indecent-poems-of-a-medieval-welsh-feminist-poet/ lithub.com; teitl: On the Gleefully Indecent Poems of a Medieval Welsh Feminist Poet gan Lauren Cocking
    dyddiad cyhoeddi ar y we
    9 Awst 2019.