Mudiad ieuenctid Cymreig ydy Gwerin y Coed sy'n cynnig grwpiau wythnosol ledled Cymru. Maent yn gysylltiedig â'r mudiad elusennol Prydeinig, Woodcraft Folk. Nod y mudiad ydy hybu gwerthoedd megis tegwch cymdeithasol, heddwch, gofal am yr amgylchedd a chydraddoldeb.[1]

Gwerin y Coed
Enghraifft o'r canlynolsefydliad elusennol, mudiad ieuenctid Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1925 Edit this on Wikidata
SylfaenyddLeslie Paul Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolcwmni preifat sy'n gyfyngedig drwy warant Edit this on Wikidata
PencadlysLlundain Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.woodcraft.org.uk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Bob wythnos, mae grwpiau'n cwrdd mewn gwahanol ardaloedd ar draws y wlad i wneud pob math o weithgareddau fel coginio ar dân agored, crefftau, teithiau cerdded, gemau, drama, canu a thrafod. Mae gwersylla yn rhan bwysig o fywyd yr elusen a bydd grwpiau Gwerin yn gwersylla'n rheolaidd ac yn dod at ei gilydd i gynnal gwersyll mawr o leiaf unwaith y flwyddyn. Mae'r aelodau ifanc yn cael cryn gefnogaeth i'w galluogi i gymryd cyfrifoldeb am rhan helaeth o'r trefnu, siopa, paratoi bwyd, gosod pebyll ac yn y blaen.

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan swyddogol gwerin.org; Archifwyd 2016-02-17 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 8 Mawrth 2017.