Gwerinlywodraeth Lloegr

Y weriniaeth a reolodd yn gyntaf Lloegr, ac yna Iwerddon a'r Alban rhwng 1649 a 1660 oedd Gwerinlywodraeth Lloegr. Rhwng 1653-1659 fe'i adwaenid fel Gwerinlywodraeth Lloegr, yr Alban ac Iwerddon.[1] Ar ôl Rhyfel Cartref Lloegr a dienyddiad Siarl I, datganwyd bodolaeth y weriniaeth gan "Deddf yn datgan Lloegr yn Werinlywodraeth"[2] a fabwysiadwyd gan Senedd y Gweddill ar 19 Mai 1649. Roedd pwerau gweithredol wedi'u trosglwyddo i Gyngor y Wladwriaeth eisoes. Rhwng 1653 a 1659, galwyd y llywodraeth yn Y Diffynwriaeth, ac fe'i rheolwyd gan Oliver Cromwell. Ar ôl ei farwolaeth, cymerodd ei fab, Richard, yr awennau fel Arglwydd Amddiffynnydd; arweiniodd hyn i'r wladwriaeth gael ei enwi'n "weriniaeth goronog". Serch hynny, defnyddir y term Gwerinlywodraeth i ddisgrifio'r math o lywodraeth yn ystod yr holl gyfnod rhwng 1649 a 1660, pan oedd Lloegr yn de facto, ac o bosib yn de jure, gweriniaeth (neu'n Rhyngdeyrnasiad Lloegr o safbwynt breninaethwyr).

Gwerinlywodraeth Lloegr
Mathgwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
PrifddinasLlundain Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 19 Mai 1649 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Arwynebedd130,395 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52°N 0.000000°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholRump Parliament Edit this on Wikidata
Map
Arianpunt sterling Edit this on Wikidata

Cyfeiriadau golygu