Gwilym Ddu o Arfon

bardd Cymraeg

Bardd a ganai yn y cyfnod yn dilyn cwymp tywysogaeth Gwynedd oedd Gwilym Ddu o Arfon (fl. 1280 - 1320). Fel ei gyfoeswr Gruffudd ap Dafydd ap Tudur mae ei waith yn rhychwantu'r cyfnod rhwng Beirdd y Tywysogion a'r Cywyddwyr ac am hynny gellid ei ystyried fel un o'r Gogynfeirdd diweddar.[1]

Gwilym Ddu o Arfon
Ganwyd13 g Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw14 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Rydym yn dibynnu ar dystiolaeth ei gerddi am wybodaeth amdano. Fel mae ei enw'n awgrymu, roedd yn fardd o Arfon (rhan o Wynedd heddiw). Mae traddodiad lleol a gofnodir gan yr hynafiaethydd John Jones (Myrddin Fardd) yn ei gysylltu ag ardal Glynllifon yn y cantref hwnnw. Dywed Myrddin Fardd ei fod yn byw 'mewn llecyn a adnabyddir fel Muriau Gwilym Ddu yn agos i Dyddyn Tudur, nid ymhell oddi wrth y Glyn llifon'. Ei brif noddwr oedd yr uchelwr dylanwadol o Fôn Syr Gruffudd Llwyd ap Rhys, un o ddisgynyddion Ednyfed Fychan, canghellor Llywelyn Fawr; ymddengys fod gan y bardd le anrhydeddus yn llys Syr Gruffudd yn Nhregarnedd ar yr ynys ac iddo ddioddef pan garcharwyd ei noddwr am ddwy flynedd am ei ran dybiedig yn y gwrthryfeloedd yn erbyn y Saeson ar ddechrau'r 14g. Mae un o'i gerddi'n awgrymu iddo fynd ar bererindod i'r Tir Sanctaidd.[1]

Llawysgrifau golygu

Ceir dryll o un gerdd yn llawysgrif Peniarth 20 (tua 1330), ond y brif ffynhonnell am ei gerddi yw'r testunau yn Llyfr Coch Hergest (tua 1400).[1]

Cerddi golygu

Dim ond pedair cerdd o waith Gwilym Ddu sydd wedi goroesi. Mae dwy ohonyn nhw'n awdlau moliant i Syr Gruffudd Llwyd. Y fwyaf diddorol efallai yw'r farwnad i'r bardd cyfoes Trahaearn Brydydd Mawr. Ceir hefyd awdl i Iesu. Mae'r defnydd coeth o gynghanedd yn debyg i waith Beirdd y Tywysogion ond ceir elfennau personol hefyd ac mae'r cyfan "o ansawdd uchel iawn."[1]

Llyfryddiaeth golygu

Golygir gwaith y bardd gan R. Iestyn Daniel yn:

  • N.G. Costigan (Bosco) ac eraill (gol.), Gwaith Gruffudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995)

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Gwaith Gruffudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995). Rhagymadrodd.