Gwilym Tew

un o feirdd Morgannwg

Roedd Gwilym Tew (fl. 14601480) yn fardd a chopïydd llawysgrifau, yn enedigol o Dir Iarll ym Morgannwg.[1]

Gwilym Tew
Ganwyd15 g Edit this on Wikidata
Tir Iarll Edit this on Wikidata
Bu farw15 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1460 Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Mae'n bosibl ei fod yn fab i'r bardd Rhys Brydydd (fl. tua chanol y 15g) neu ei frawd.[1]

Gwaith llenyddol golygu

Ymhlith ei gerddi mae cywyddau serch, cywyddau gofyn, nifer o gerddi mawl traddodiadol i noddwyr, a dwy awdl i'r Forwyn Fair.[1]

Bu Gwilym Tew yn berchen ar Lyfr Aneirin am gyfnod. Copïodd nifer o lawysgrifau yn cynnwys copïau o'r Trioedd, llyfr achau, casgliad o'i gerddi ei hun, a dwy eirfa sydd ymhlith yr engheifftiau cynharaf o'i math yn y Gymraeg.[1]

Yn llawysgrif Peniarth 51, yn ei law ei hun, ceir cyfieithiad Cymraeg o'r bwystori Ffrangeg Bestiaire d'Amour gan Richart de Fornival.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948).



  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.