Gwion (esgob)

Esgob Bangor

Clerigwr Cymreig fu'n Esgob Bangor oedd Gwion, Lladin: Wido (bu farw tua 1190).

Gwion
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru

Cysegrwyd ef gan Archesgob Caergaint yn Amesbury, Wiltshire ar 22 Mai 1177. Disgrifia Gerallt Gymro fel y gorfodwyd ef i gymeryd y groes ar 12 Ebrill 1188, pan oedd Gerallt a Baldwin, Archesgob Caergaint yn teithio oddi amgylch Cymru i bregethu'r Drydedd Groesgad. Nid oes cofnod iddo fynd ar y groesgad.

Roedd ganddo dri brawd: Madog, Gervase a Philip, a chofnodir i'w fab Philip ddod yn archddiacon.